Kyrgyz Entsykopediasy
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gwyddoniadur cenedlaethol ![]() |
---|---|
Gwlad | Cirgistan ![]() |
Iaith | Cirgiseg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1976 ![]() |
Genre | gwyddoniadur ![]() |
Gwyddoniadur swyddogol a gyhoeddir yng Nghirgistan yw Kyrgyz Entsykopediasy. Sefydlwyd y prosiect yn 1968 gan Academi Gwyddorau Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgistan, a oedd ar y pryd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd. O 1974 i 1999, rheolwyd y cywaith gan Bwyllgor y Wladwriaeth dros Gyhoeddi a'r Fasnach Lyfrau. Sefydlwyd Canolfan Iaith a Gwyddoniadur y Wladwriaeth yn 1999 i gymryd dros waith y gwyddoniadur, yn yr ieithoedd Cirgiseg a Rwseg. Cyhoeddwyd chwe chyfrol yn Girgiseg, y Sovettyk Kyrgyzstan, yn y 1980au, ac un gyfrol dan y teitl Kirgizskaya Sovetskaya Sotsialisticheskaya Respublika. Yn y 1990au cyhoeddwyd Manas Entsyklopediasy mewn dwy gyfrol. Cyhoeddwyd Kyrgyzstan: Entsyklopedia, yn Girgiseg ac yn Rwseg, yn 2001.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 170.