Kyphi

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aa9
p Z7
D12
Z2ss
,
V31G1R5p
X1
,
Aa7p
Z7
N38
kp.t
Tacso: gronynnau, arogldarth
yn hieroglyffau

Mae kyphi yn arogldarth cyfansawdd a ddefnyddiwyd yn yr Hen Aifft er pwrpasau crefyddol a meddygol.

Gair[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gair kyphi yn tarddu o'r gair Groeg κυ̑φι am y gair Hen Eiffteg "kap-t", arogldarth, o "kap", persawru, arogldarthu, cynhesu, llosgi, cynnau.[1][2] Mae bôn y gair hefyd i'w weld mewn ieithoedd Indo-Ewropeaidd, gydag ystyr tebyg, fel yn Sansgritaeg कपि (kapi) "arogldarth", Groeg καπνός "ysmygu", a Lladin "vapor".[3][4]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Plutarch (De Iside et Osiride) a Suidas (s. v. Μανήθως), ysgrifennodd yr offeiriad Eifftaidd Manetho (circa 300 CCC) draethawd dan y teitl "I baratoi kyphi" (Περὶ κατασκευη̑ϛ κυφίων), ond nid oes yr un copi'n bodoli bellach.[5][6] Mae tair rysáit kyphi Eifftaidd i'w gweld o gyfnod Ptolemaidd ar waliau teml Edfu a Philae.[7]

Cofnodwyd ryseitiau kyphi Groegaidd gan Dioscorides (De Materia Medica, I, 24), Plutarch (De Iside et Osiride, § 80) a Galen (De antidotis, II, 2).[7]

Cofnodwyd y ffisigwr 19g Paulus Aegineta kyphi "lleuadaidd" sy'n cynnwys wyth cynhwysyn ar hugain a kyphi "heulol" sy'n cynnwys chwe chynhwysyn ar ddeg ar hugain.[angen ffynhonnell]

Cynhyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y ryseitiau Eifftaidd un cynhwysyn ar bymtheg yr un. Mae Dioscorides yn nodi deg cynhwysyn, sy'n gyffredin i bob rysáit. Mae Plutarch yn nodi un cynhwysyn ar bymtheg, ac mae Galen yn nodi pymtheg. Plutarch sy'n awgrymu'r pwysigrwydd mathemategol o un cynhwysyn ar bymtheg.[7]

Mae rhai cynhwysion yn amheus o hyd. Mae ryseitiau Groegaidd yn sôn am aspalathus, a ddisgrifi yn brysgwydden ddreiniog yn ôl awduron Rhufeinig. Nid yw ysgolheigion yng nghytûn ar y planhigyn hwn: awgrymir rhywogaeth o Papilionaceae (Cytisus, Genista neu Spartium).[7] Convolvulus scoparius,[7] a Genista acanthoclada[8] Mae gan y ryseitiau Eifftaidd gynhwysion sydd hefyd yn amheus.

I'w greu, cymysgir a berwir y cynhwysion mewn trefn benodol. Yn ôl Galen, rholir yr arogldarth yn belen a'i osod ar lo poeth i greu perfwg; yfwyd ef hefyd yn feddygaeth i wella'r iau ac ysgyfaint.[7]

Dioscorides (10 cynhwysyn)[golygu | golygu cod y dudalen]

Plutarch (+6 chynhwysyn)[golygu | golygu cod y dudalen]

Galen (+5 cynhwysyn)[golygu | golygu cod y dudalen]

Eifftaidd (+6 chynhwysyn)[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]