Kiri Pritchard-McLean

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kiri Pritchard-McLean
Ganwyd 6 Tachwedd 1986 Edit this on Wikidata
Caerloyw Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Digrifwr, master of ceremonies, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata

Digrifwraig yw Kiri Pritchard-McLean (ganwyd Kiri McLean; 6 Tachwedd 1986). Fe'i ganed yng Nghaerloyw, ac fe'i magwyd ar fferm yn Ynys Môn. Mae wedi perfformio am sawl blwyddyn yn olynol yn Ngŵyl Ffrinj Caeredin ac mae wedi ennill dwy wobr Chortle. Mynychodd Ysgol Friars ym Mangor.

Gyrfa gomedi[golygu | golygu cod y dudalen]

Hi yw cyfarwyddwr ac awdur y grŵp sgets Gein's Family Giftshop a enwebwyd am Newydd-ddyfodiad Gorau, Gwobrau Comedi Caeredin yn 2014.[1] Fel grŵp sgets, cawsant eu henwebu hefyd ar gyfer Gwobrau Chortle yn 2015. Cymerodd ei sioe gyntaf Hysterical Woman i Ŵyl Frinj Caeredin yn 2016.[2] Trosglwyddodd i'r Soho Theatre ar gyfer rhediad ym mis Mehefin 2017. Enw ei sioe yn Frinj Caeredin 2017 oedd Appropriate Adult ac enw sioe 2018 oedd Victim, Complex. Cafodd y ddwy sioe eu canmol gan feirniaid ac fe'u trosglwyddyd hefyd i'r Soho Theatre y flwyddyn ganlynol.

Mae Pritchard-McLean wedi ymddangos ar Have I Got News for You[3], sioe Stand Up Russell Howard ar Comedy Central ac Elevenish ar ITV; yn ogystal â sawl ymddangosiad ar raglenni BBC Radio 4, The Now Show, The News Quiz a sioe Ellis James, State of the Nation.

Mae hi hefyd yn gyd-gyflwynydd y podlediad All Killa No Filla ynghyd â'i chyd-gomedïwr Rachel Fairburn.[4]

Yn 2019 daeth Pritchard-McLean yn gyflwynydd y sioe sgets ddychanol ar BBC Radio 4 Newsjack.[5]

Gwobrau comedi[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd y Compere Orau a'r Digrifwr Clwb Gorau yn y Chortle Awards yn 2018.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Logan, Brian (2015-08-14). "Edinburgh comedy roundup: the best of the rest – week one" (yn en-GB). The Guardian. ISSN 0261-3077. https://www.theguardian.com/stage/2015/aug/14/edinburgh-comedy-festival-roundup-fringe-winning-geins-family-giftshop-jerrod-kinane.
  2. Logan, Brian (2017-04-28). "Hysterical Woman: the standup show addressing sexism in comedy" (yn en-GB). The Guardian. ISSN 0261-3077. https://www.theguardian.com/stage/2017/apr/28/hysterical-woman-standup-sexism-in-comedy-kiri-pritchard-mclean.
  3. "Have I Got News for You - S56 - Episode 3". Radio Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-10-20.
  4. Hershon, Marc (2016-03-18). "Podcast Reviews: I Am Rapaport & All Killa No Filla". Huffington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-11.
  5. "New presenters announced for BBC Radio 4 Extra's Newsjack and Comedy Club". BBC Media Centre. 12 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2018.
  6. "Chortle Awards 2018: The results". Chortle. Chortle Awards. Cyrchwyd 22 Ebrill 2018.