The Now Show

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Rhaglen radio gomedi ddychanol ydy The Now Show, sy'n cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4. Mae'r rhaglen yn dychanu newyddion yr wythnos drwy gymysgedd o stand-up, sgetsys a chaneuon wedi eu cyflwyno gan Steve Punt a Hugh Dennis. Mae sgitiau gan Jon Holmes (gyda jociau ynglyn a'i daldra), Laura Shavin (Emma Kennedy oedd yn gwneud y lleisiau yn y cyfresi cynnar), a monolog (fel arfer yn debycach i refru) gan Marcus Brigstocke, a cherddoriaeth gan Mitch Benn. Mae cyfresi yn y gorffennol hefyd wedi cynnwys Robin Ince, Dave Gorman, Simon Munnery, Al Murray, Andy Zaltzman a Dr Phil Hammond. Mae Jon Culshaw wedi ymddangos ym mhenodau'r Nadolig yn 2004 a 2005. Mae Rory Bremner hefyd yn westai ar y rhaglen weithiau. Mae gwestai hefyd yn cymryd lle aelodau cast o bryd i'w gilydd.

The Now Show Wikipedia Excerpt Media:TheNowShow 20060804 Wikipedia.ogg Darn o fersiwn podcast y rhaglen sy'n dychanu Wicipedia fel offer twyllo ar gyfer myfyrwyr TGAU - 565KB

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]