King's Cross, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
King's Cross, Caerdydd
Enghraifft o'r canlynoltafarn Edit this on Wikidata
LleoliadCastell, Caerdydd Edit this on Wikidata
PerchennogMitchells & Butlers Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCaerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata

Tafarn hoyw wedi ei lleoli yng nghanol prifddinas Cymru, Caerdydd yw'r King's Cross (ond a elwir bellach yn The Corner House). Adeiladwyd yr adeilad yn wreiddiol ym 1872 [1] ond cafodd ei foderneiddio ym 1998. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Diwedd cyfnod a newid enw[golygu | golygu cod]

Yn 2009, cyhoeddwyd y byddai cwmni Mitchells & Butlers yn cymryd rheolaeth o'r dafarn ac yn ei newid yn dafarn gadwyn.[2] Arweiniodd hyn at ymgyrch gan gymuned hoyw Caerdydd er mwyn achub naws y dafarn. Dadleuai'r ymgyrchwyr fod y dafarn yn hanesyddol gan mai dyma oedd tafarn hoyw hynaf Cymru. Cyflwynwyd deiseb gyda thros 2,000 o enwau arni yn gofyn ar y cwmni i gadw hunaniaeth y dafarn fel ag yr oedd. Cefnogwyd yr ymgyrch gan y chwaraewr rygbi hoyw, Gareth Thomas ac arweinydd Cyngor Caerdydd ar y pryd, Rodney Berman.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan CardiffPubs Adalwyd ar 25 Mai 2011
  2.  Bid to save gay Cardiff pub is defeated (23 Chwefror 2011). Adalwyd ar 25 Mai 2011.