Khanty-Mansiysk
Gwedd
| Math | uned weinyddol o dir yn Rwsia, tref neu ddinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 105,995 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Maksim Pavlovich Ryashin |
| Cylchfa amser | UTC+05:00 |
| Gefeilldref/i | Yerevan |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 337.7604 km² |
| Uwch y môr | 50 metr |
| Gerllaw | Afon Irtysh |
| Cyfesurynnau | 61°N 69°E |
| Cod post | 628000 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Maksim Pavlovich Ryashin |
![]() | |
Tref gymharol ddiweddar, a sefydlwyd yn 1930 yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd, sy'n ganolfan weinyddol Ocrwg Ymreolaethol Khanty-Mansi yn Rwsia yw Khanty-Mansiysk (Rwseg: Ха́нты-Манси́йск). Mae'r dref wedi tyfu'n sylweddol o ganlyniad i ddatblygiad y diwydiant olew. Poblogaeth: 53,953 (2002), cynnydd o 34,462 ar ffigwr 1989. Mae'n gorwedd ar lan Afon Irtysh, 15 km o'i chymer ag Afon Ob.
Mae nifer o'r trigolion yn bobl Ffino-Wgrig (Finno-Ugric).
Khanty-Mansiysk oedd lleoliad Olympiad Gwyddbwyll 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas a'r Okrug Archifwyd 2020-10-12 yn y Peiriant Wayback

