Kersti Juva
Gwedd
Kersti Juva | |
---|---|
Ganwyd | Kersti Anna Linnea Juva 17 Medi 1948 Helsinki |
Dinasyddiaeth | Y Ffindir |
Addysg | Master of Philosophy |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, ymgyrchydd |
Tad | Mikko Juva |
Perthnasau | Einar W. Juva |
Gwobr/au | Gwobr y Wladwriaeth ar gyfer Llenyddiaeth y Ffindir, Finnish National Prize, Medal Pro Finlandia Urdd Llew'r Ffindir |
Un o gyfieithwyr llenyddol pwysicaf y Ffinneg ydy Kersti Anna Linnea Juva (g. 17 Medi 1948 yn Helsinki). Graddiodd ym Mhrifysgol Helsinki mewn llenyddiaeth ac athroniaeth. Mae'n treulio llawer o'i hamser yn byw yng Ngorllewin Cymru.[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chyfieithiad o weithiau J. R. R. Tolkien gan gynnwys The Lord of the Rings, The Silmarillion a The Hobbit. Ymhlith ei gweithiau eraill mae Winnie-the-Pooh a The Mystery of Edwin Drood gan Charles Dickens.
Ers 1975 mae wedi ennill nifer o wobrau fel cyfieithydd.