Winnie-the-Pooh

Oddi ar Wicipedia
Winnie-the-Pooh
Man preswylHundred Acre Wood Edit this on Wikidata

Arth a chymeriad ffuglen a grewyd gan A. A. Milne ydy Winnie-the-Pooh. Caiff yr enw ei fyrhau i Pooh Bear a hefyd yn Edward Bear. Ymddangosodd y cymeriad am y tro cyntaf yn y llyfrau Winnie-the-Pooh (1926) a The House at Pooh Corner (1928). Cynhwysodd Milne nifer o gerddi am Winnie-the-Pooh yn y llyfrau cerddi plant When We Were Very Young a Now We Are Six. Darluniwyd y pedwar llyfr gan E. H. Shepard.

Winnie-the-Pooh- White River, Ontario
Eginyn erthygl sydd uchod am gymeriad llenyddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.