Keith Towler

Oddi ar Wicipedia
Keith Towler
Ganwyd1959 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweithiwr cymdeithasol Edit this on Wikidata

Gweithwr cymdeithasol hyfforddedig a chyn Gomisiynydd Plant Cymru yw Keith Towler (ganed Ionawr 1959)[1].

Ganwyd yn Llundain yn fab i Betty a Peter, a daeth i Gymru yn blentyn pan symudodd y teulu i ardal Treganna. Aeth i ysgol gynradd yn Treganna cyn i'r teulu symud i ardal Cyncoed. Mynychodd Ysgol Uwchradd Llanedeyrn cyn gwneud gradd mewn celfyddyd gain yng Ngholeg Celf a Dylunio Exeter.[1] Yna ymunodd ag adran gwasnaethau cymdeithasol Cyngor Sir De Morgannwg, a hyfforddod fel cynorthwy-ydd gwaith cymdeithasol, gan weithio mewn cyfiawnder ieuenctid.[2]

Daeth yn bennaeth NACRO Cymru yn 1998, ac yn 2001 fe'i benodwyd yn Gyfarwyddwr Lleihau Trosedd gyda NACRO.[3] Yn 2006 daeth yn gyfarwyddwr rhaglen i Achub Y Plant Cymru, ac yn gadeirydd  Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cymru.[2]

Penodwyd Towler yn Gomisiynydd Plant Cymru ym Mawrth 2008, ar ôl marwolaeth Peter Clarke.[2] Fe'i ddilynwyd gan Dr. Sally Holland yn 2015.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw yn Llandeilo gyda'i wraig Angela a mae ganddo fab a merch.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Fighting for their rights (en) , walesonline.co.uk, 2 Chwefror 2008. Cyrchwyd ar 6 Gorffennaf 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Keith Towler Biography". Welsh Assembly Government. Cyrchwyd 14 November 2012.
  3. "Keith Towler Biography". IPA. Cyrchwyd 14 November 2012.
  4. "Sally Holland is new children's commissioner for Wales". BBC News. Cyrchwyd 2015-11-12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]