Keith Baxter

Oddi ar Wicipedia
Keith Baxter
Ganwyd29 Ebrill 1933 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw24 Medi 2023 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y 'Theatre World' Edit this on Wikidata

Actor a chyfarwyddwr theatr, ffilm a theledu Cymreig oedd Keith Stanley Baxter-Wright (29 Ebrill 193324 Medi 2023), yn fwyaf adnabyddus fel Keith Baxter.[1]

Cafodd Baxter ei eni yng Nghasnewydd, Sir Fynwy, yn fab i Stanley Baxter-Wright, capten môr y Llynges Fasnachol, a'i wraig Emily Baxter (née Howell). [2] Buont yn byw am gyfnod yn Romilly Road, y Barri, Morgannwg . Addysgwyd Baxter yn Ysgol Uwchradd Casnewydd ac Ysgol Ramadeg y Barri. Astudiodd yn Academi Frenhinol Celfyddydau Dramatig , Llundain, lle daeth yn ffrind ei chyd-ddisgybl, Alan Bates.[1]

Ym 1965, chwaraeodd Baxter Tywysog Hal mewn ffilm Chimes at Midnight, gan Orson Welles. Mae credydau ffilm ychwanegol yn cynnwys Ash Wednesday (1973; gydag Elizabeth Taylor ), Golden Rendezvous (1977), a Killing Time (1998).

Priododd Baxter â Brian Holden yn 2016.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Michael Coveney (22 Hydref 2023). "Keith Baxter obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2023.
  2. "Keith Baxter, much-loved actor and theatre man who played Prince Hal to Orson Welles's Falstaff – obituary" (yn Saesneg). The Telegraph. 13 Hydref 2023. Cyrchwyd 13 October 2023.