Katie Curtis
Gwedd
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Catherine Rachel Curtis |
Dyddiad geni | 1 Tachwedd 1988 |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Dygner |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
Team Halfords Bike Hut | |
Golygwyd ddiwethaf ar 11 Gorffennaf, 2007 |
Seiclwr trac ydy Catherine Rachel "Katie" Curtis (ganwyd 1 Tachwedd 1988 yng Nghaerdydd). Dechreuodd rasio gyda chlwb plant y Maindy Flyers yng Nghaerdydd cyn ymuno â'r clwb Cardiff Ajax. Mae'n aelod o dîm gwledydd Prydain ar y Rhaglen Datblygu Olympaidd, bu'n rasio dros Team Halfords Bike Hut a bellach gyda'r Podium Ambition Pro Cycling pan nad yw'n rasio dros ei gwlad.
Mae'n dal Record Tandem 'Standing Start' 5 Km Merched ynghyd â Alex Greenfield, gydag amser o 7 munud 4.424 eiliad. Gosodwyd y record yn Velodrome Casnewydd ar 10 Mehefin 2004.
Cafodd ei deiagnosio o fod a'r Clefyd Crohn arni a dechreuodd hyfforddi seiclwyr eraill yn Velodrome Cenedlaethol Cymru, Llyswyry, Casnewydd.
Canlyniadau
[golygu | golygu cod]Trac
[golygu | golygu cod]- 2004
- 4ydd Treial Amser 500m Merched Gemau'r Gymanwlad Iau
- 7fed Ras Bwyntiau Merched Gemau'r Gymanwlad Iau
- 2005
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Scratch Merched Iau
- 2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Bwyntiau Merched Iau
- 3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol Sbrint Merched Iau
- 2006
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Bwyntiau Merched Iau
- 2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Scratch Merched Iau
- 2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Bwyntiau Merched
- 2007
- 1af Pencampwriaeth W.C.R.A. 'Derny Paced' Merched
- 3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol 'Derny Paced' Merched
- 8fed Ras Scratch, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
Ffordd
[golygu | golygu cod]- 2007
- 1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Ffordd (Cymru)
- 3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol Criterium
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- [1] Archifwyd 2008-01-04 yn y Peiriant Wayback Proffil ar wefan Seiclo Prydain
- Cyfweliad gyda Cycling Weekly[dolen farw]