Karl Wallinger

Oddi ar Wicipedia
Karl Wallinger
GanwydKarl Edmond De Vere Wallinger Edit this on Wikidata
19 Hydref 1957 Edit this on Wikidata
Prestatyn Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 2024 Edit this on Wikidata
Hastings Edit this on Wikidata
Man preswylHastings Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Charterhouse Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, cyhoeddwr cerddoriaeth, canwr, cerddor, cyfansoddwr, offerynnau amrywiol Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth y byd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadBob Dylan, Love, The Beatles, The Beach Boys Edit this on Wikidata

Cerddor, cyfansoddwr caneuon a chynhyrchydd recordiau o Gymru oedd Karl Edmond De Vere Wallinger (19 Hydref 195710 Mawrth 2024). Roedd e'n fwyaf adnabyddus am ei amser yn y bandiau World Party a The Waterboys.

Wallinger oedd ysgrifennwr y caneuon "Ship of Fools" a "She's the One", a gafodd sylw yn ddiweddarach gan Robbie Williams.[1]

Cafodd Wallinger ei eni ym Mhrestatyn. Cafodd ei addysg yn yr ysgol Charterhouse yn Surrey).[2] [3]

Dechreuodd gyrfa gerddorol Wallinger ym Mhrestatyn yn 1977 fel chwaraewr allweddellau gyda'r bandiau Pax a Quasimodo gyda Dave Sharp a Nigel Twist (a aeth yn eu blaen i fod yn aelodau o The Alarm). Wedyn daeth yn gyfarwyddwr cerdd y Rocky Horror Show.

Ymunodd Wallinger i fand Mike Scott y Waterboys fel chwaraewr bysellfwrdd ym 1983, Ysgrifennodd Wallinger y gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer "Don't Bang the Drum" (trac agoriadol yr albwm This Is the Sea).

Roedd Wallinger yn briod â'r cerflunydd Suzie Zamit. Bu iddynt ddau o blant.[3] Datgelodd Wallinger ei fod wedi dioddef ymlediad ar yr ymennydd ym mis Chwefror 2001.[4] [5] Er bod yr aniwrysm yn golygu bod yn rhaid iddo atal ei holl waith am bron i bum mlynedd, fe ailddechreuodd ar daith yn 2006.

Bu farw Wallinger ar 10 Mawrth 2024, yn 66 oed [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 Breihan, Tom (11 Mawrth 2024). "Karl Wallinger (World Party, The Waterboys) Dead At 66". Stereogum (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mawrth 2024. Cyrchwyd 11 Mawrth 2024.
  2. "Wallinger, Karl". encyclopedia.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Awst 2020. Cyrchwyd 19 Mai 2020.
  3. 3.0 3.1 Thomson, Graeme (15 Awst 2012). "Karl Wallinger: The song that saved my bacon". The Daily Telegraph (yn Saesneg). ISSN 0307-1235. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2020. Cyrchwyd 19 Mai 2020.
  4. Hedblade, Jay (18 Awst 2006). "Wallinger has love on the brain". Chicago Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2014. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2011.
  5. Dwyer, Michael (20 Medi 2007). "World Party". The Age. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 19 Mai 2020.