Jwnta filwrol yr Ariannin (1976–83)
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | llywodraeth, lladdiad torfol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 24 Mawrth 1976 |
Dechreuwyd | 24 Mawrth 1976 |
Daeth i ben | 10 Rhagfyr 1983 |
Gwladwriaeth | yr Ariannin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rheolwyd yr Ariannin gan jwnta filwrol o 1976 hyd 1983. Cipiodd y fyddin grym mewn coup d'état ym 1976, a datganwyd "y Broses Ad-drefnu Genedlaethol" (Sbaeneg: Proceso de Reorganización Nacional). Dechreuodd y Rhyfel Brwnt yn erbyn grwpiau gerila adain chwith, a bu camdriniaethau hawliau dynol gan gynnwys artaith a llofruddiaethau torfol gan sgwadiau marwolaeth y jwnta. Yn sgil trechiad yr Ariannin yn Rhyfel y Falklands (1982) a gwrthwynebiad ar draws y wlad i'r jwnta, cwympodd llywodraeth y cadfridogion a dychwelodd y wlad at ddemocratiaeth ym 1983.
Arlywyddion
[golygu | golygu cod]- Jorge Rafael Videla, 29 Mawrth 1976 – 29 Mawrth 1981
- Roberto Eduardo Viola, 29 Mawrth – 11 Rhagfyr 1981
- Carlos Lacoste, 11–22 Rhagfyr, 1981
- Leopoldo Galtieri, 22 Rhagfyr 1981 – 18 Mehefin 1982
- Alfredo Oscar Saint Jean, 18 Mehefin 1982 – 1 Gorffennaf 1982
- Reynaldo Bignone, 1 Gorffennaf 1982 – 10 Rhagfyr 1983