Neidio i'r cynnwys

Judit Polgár

Oddi ar Wicipedia
Judit Polgár
Ganwyd23 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, Esperantydd, cyflwynydd chwaraeon Edit this on Wikidata
TadLászló Polgár Edit this on Wikidata
MamKlára Polgár Edit this on Wikidata
Gwobr/auChess Oscar, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Hungarian Order of Saint Stephen, Hungarian Order of Merit, dinesydd anrhydeddus Budapest Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.polgarjudit.hu Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonHwngari Edit this on Wikidata

Chwaraewr gwyddbwyll o Hwngari yw Judit Polgár (ganwyd 23 Gorffennaf 1976). Fe'i hystyrir yn chwaraewr gwyddbwyll benywaidd cryfaf erioed.

Ganwyd Polgár ar 23 Gorffennaf 1976 yn Budapest, i deulu Iddewig o Hwngari. Roedd Polgár a'i dwy chwaer hŷn, Susan (neu Zsuzsanna) a Sofia (neu Zsófia), yn rhan o arbrawf addysgol a gynhaliwyd gan eu tad, László Polgár, mewn ymgais i brofi y gallai plant wneud cyflawniadau eithriadol pe baent yn cael eu hyfforddi mewn pwnc arbenigol o gynnar iawn. oed. Addysgwyd y tair merch gartref, gyda gwyddbwyll fel y pwnc arbenigol. Daeth y tair merch yn chwaraewyr gwyddbwyll cryf iawn mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Ym 1991, enillodd Polgár deitl Uwchfeistr yn 15 oed a 4 mis, ar yr adeg yr ieuengaf i wneud hynny, gan dorri'r record a ddaliwyd yn flaenorol gan gyn-Bencampwr y Byd Bobby Fischer. Yn Ionawr 1989, yn 12 oed, daeth hi'r chwaraewr ieuengaf erioed i ymddangos yn rhestr FIDE o'r 100 chwaraewr gorau yn y byd. Roedd hi'r unig fenyw i gael ei rhestru ymhlith y deg uchaf yn yr rhestr honno, gan gyrraedd y safle hwnnw gyntaf ym 1996.[1] Roedd hi'n Rhif 1 yn rhestr y menywod o fis Ionawr 1989 hyd ei hymddeoliad ar 13 Awst 2014.[2] Hi oedd y fenyw gyntaf, a hyd yn hyn yr unig fenyw, i fod wedi rhagori ar 2700 Elo, gan gyrraedd 2735 yn 2005.

Ym Awst 2000, priododd Polgár â llawfeddyg milfeddygol Gusztáv Font. Roedd ganddyn nhw ddau o blant.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Fide Rating List: January 1996", OlimpBase; adalwyd 8 Mawrth 2021
  2. "Judit Polgar to retire from competitive chess", ChessBase, 13 Awst 2014; adaliwyd 8 Mawrth 2021

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]