Juanita Castro

Oddi ar Wicipedia
Juanita Castro
FfugenwJuanita Castro Ruz Edit this on Wikidata
GanwydJuana de la Caridad Castro Ruz Edit this on Wikidata
6 Mai 1933 Edit this on Wikidata
Birán Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 2023 Edit this on Wikidata
Miami Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ciwba Ciwba Baner UDA UDA
Galwedigaethperson busnes, person gwrthwynebol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadÁngel Castro y Arguíz Edit this on Wikidata
MamLina Ruz González Edit this on Wikidata

Roedd Juana de la Caridad "Juanita" Castro Ruz (6 Mai 19334 Rhagfyr 2023) yn actifydd ac awdur Ciwbaidd-Americanaidd Chwaer Fidel a Raúl Castro, y ddau yn gyn-lywyddion Ciwba, a'u brawd Ramón, ffigwr allweddol y Chwyldro Ciwba.

Cafodd Juana de la Caridad Castro ei geni yn Birán,[1][2] fel pedwerydd plentyn Ángel Castro yr Argiz a'i cogydd Lina Ruz González ac roedd ganddi dri brawd - Ramón, Fidel, a Raúl - a thair chwaer - Angelita, Emma, ac Agustina. [1]Roedd Angel yn briod â dynes arall pan anwyd Juanita a'i brodyr hŷn. [1]


Bu Juanita Castro yn weithgar yn y chwyldro Ciwba, gan brynu arfau ar gyfer y mudiad 26ain o Orffennaf yn ystod eu hymgyrch yn erbyn Fulgencio Batista.[3] Ym 1958, teithiodd i'r Unol Daleithiau i godi arian i gefnogi mudiad y gwrthryfelwyr.[3] Ar ôl cydweithio â'r Asiantaeth Cudd-wybodaeth Ganolog yng Nghiwba yn 1964, bu'n byw yn yr Unol Daleithiau hyd at ei marwolaeth.

Daeth yn ddinesydd naturiol yr Unol Daleithiau ym 1984.[2] Bu farw Castro mewn ysbyty yn Miami, Florida, yn 90 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Bardach, Ann Louise (2002). Cuba Confidential (yn Saesneg). University of Michigan. tt. 57–59. ISBN 9780375504891. OCLC 1117447686.
  2. 2.0 2.1 "Juanita Castro, hermana de Fidel Castro y exiliada cubana, muere a los 90 años en Miami" (yn Spanish). El Diario NY. 5 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. 3.0 3.1 "The Bitter Family". Time (yn Saesneg). 10 Gorffennaf 1964. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2007. Cyrchwyd 19 Chwefror 2008.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]