Juan León Mera

Oddi ar Wicipedia
Juan León Mera
Ganwyd28 Mehefin 1832 Edit this on Wikidata
Ambato Edit this on Wikidata
Bu farw13 Rhagfyr 1994 Edit this on Wikidata
Ambato Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEcwador Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddNational Assembly Deputy Edit this on Wikidata
Adnabyddus amcromiwm Edit this on Wikidata

Llenor a gwleidydd Ecwadoraidd oedd Juan León Mera (28 Mehefin 183213 Rhagfyr 1894) sydd yn nodedig am ysgrifennu geiriau anthem genedlaethol Ecwador "¡Salve, Oh Patria!" a'r nofel Indianista Cumandá (1879).

Ganed yn San Juan de Ambato, yng nghanolbarth Ecwador, a bu farw yno yn 62 oed.

Gyrfa lenyddol[golygu | golygu cod]

Mynegir syniadau Mera ynglŷn â magu diwylliant cenedlaethol yn ei ysgrif Ojeada histórico-crítica sobre la poesía ecuatoriana (1868) ac yn ei lythyr at yr ysgolhaig Sbaenaidd Marcelino Menéndez y Pelayo yn 1883. Ym 1874 sefydlodd Academi Ecwadoraidd yr Iaith Sbaeneg, ar batrwm Academi Frenhinol Sbaen, yn Quito. Ymdrechodd i boblogeiddio llenyddiaeth yn Ecwador drwy ei feirniadaeth lenyddol a'i ymchwil i hanes y wlad.[1]

Yn ogystal â "¡Salve, Oh Patria!", mae barddoniaeth Mera yn cynnwys Melodías indígenas (1858), a'r chwedl Inca ar fydr La virgen del Sol (1861). Mae ei gampwaith, y nofel Cumandá; o, Un drama entre salvajes (1879), yn adrodd stori Carlos a Cumandá, sydd yn syrthio mewn cariad â'i gilydd heb wybod eu bod yn frawd a chwaer. Dyma'r esiampl amlycaf yn llên Ecwador o'r genre Indianismo, sydd yn cyfleu darluniau Rhamantaidd a sentimental o fywydau brodorion yr Amerig. Mae portread yr offeiriaid Sbaenaidd yn Cumandá yn nodweddiadol o themâu Catholig yn ei waith.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Aelod o'r Blaid Geidwadol oedd Mera, a gwasanaethodd yn seneddwr, yn llywodraethwr, ac yn weinidog y Swyddfa Archwiliadau. Yn ystod llywodraeth yr Arlywydd Gabriel García Moreno, defnyddiodd Mera ei safle i hyrwyddo'r Concordat rhwng Ecwador â'r Esgobaeth Sanctaidd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Angel Esteban, "Mera, Juan León (1832–1894)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 22 Hydref 2020.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Marina Gálvez (gol.), Coloquio Internacional "Juan León Mera", 2 gyfrol (Ambato, Ecwador: Casa de Montalvo, 1998).
  • Víctor Manuel Garcés, Vida ejemplar y obra fecunda de Juan León Mera (Ambato, Ecwador: Ed. Pío XII, 1963).
  • Darío C. Guevara, Juan León Mera; o, El hombre de cimas (Quito: Ministerio de Educación Pública, 1944).
  • Julio Pazos, (gol.), Juan León Mera: Una visión actual (Quito: Corporación Editora Nacional, 1995).