José de la Cuadra
José de la Cuadra | |
---|---|
Ganwyd | Jose de la Cuadra Vargas 3 Medi 1903 Guayaquil |
Bu farw | 27 Chwefror 1941 Guayaquil |
Dinasyddiaeth | Ecwador |
Galwedigaeth | llenor, llyfrgellydd, nofelydd, awdur storiau byrion |
Swydd | barnwr |
Adnabyddus am | Los Sangurimas |
Arddull | traethawd |
Mudiad | realaeth, Guayaquil Group |
llofnod | |
Awdur straeon byrion a nofelydd yn yr iaith Sbaeneg o Ecwador oedd José de la Cuadra (3 Medi 1903 – 27 Chwefror 1941) a oedd yn un o lenorion Grŵp Guayaquil.
Ganed yn Guayaquil, yn Nhalaith Guayas, Ecwador. Mynychodd Uwchysgol Vicente Rocafuerte cyn dechrau astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1921. Bu'n hynod o weithgar mewn mudiadau myfyrwyr, ac ym 1925 sefydlodd yr "Universidad Popular" er cynorthwyo myfyrwyr tlawd. Derbyniodd ei radd baglor ym 1927, ac astudiodd hefyd am ddoethuriaeth yn y gyfraith. Priododd ag Inés Múñez del Arco Andrade ym 1928. Gweithiodd yn athro mewn uwchysgol ac yn y brifysgol, ac yn was sifil.[1]
Megis awduron eraill Grŵp Guayaquil, ysgrifennai José de la Cuedra am fywydau'r montuvio (y bobl o dras gymysg frodorol, Affricanaidd, ac Ewropeaidd) o ranbarth arfordir Ecwador, a hynny gydag agweddau o realaeth gymdeithasol. Canolbwyntia gwaith cynnar de la Cuadra ar ddyheadau a hiraeth ymhlith y fân-fwrdeisiaeth yn Guayaquil. Cofir yn bennaf am ei straeon byrion, a gyhoeddwyd mewn casgliadau megis Repisas (1931) a Horno (1932). Ei nofel enwocaf yw Los Sangurimas (1934), o genre ffuglen y montuvios, a ellir ei hystyried yn esiampl gynnar o realaeth hudol. Mae ei waith diweddaraf yn ymwneud â phobl yr ymylon: y montuvios, tlodion y ddinas, a'r bobloedd Amerindiaidd. Yn ogystal â'i ffuglen, ysgrifennodd de la Cuadra ysgrifau ar bynciau cymdeithasegol, er enghraifft ei draethawd El montuvio ecuatoriano (1937), a bywgraffiadau.
Penodwyd de la Cuadra yn athro'r gyfraith benyd ym Mhrifysgol Guayaquil ym 1937, a gwasanaethodd yn swydd Ysgrifennydd Cyffredinol dros Weinyddiaeth Gyhoeddus ac yn gonswl i'r Ariannin ac i Wrwgwái.[1] Bu farw José de la Cuadra yn ei ddinas enedigol, Guayaquil, yn 37 oed o waedlif ar yr ymennydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Bywgraffyddion
- Genedigaethau 1903
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Ecwador
- Llenorion straeon byrion Sbaeneg o Ecwador
- Marwolaethau 1941
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Ecwador
- Nofelwyr Sbaeneg o Ecwador
- Pobl o Guayaquil
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o Ecwador
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Sbaeneg o Ecwador