Talaith Guayas
Math | province of Ecuador |
---|---|
Prifddinas | Guayaquil |
Poblogaeth | 4,391,923 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Marcela Aguiñaga |
Cylchfa amser | UTC−05:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ecwador |
Gwlad | Ecwador |
Arwynebedd | 15,515.5 km² |
Uwch y môr | 15 metr |
Yn ffinio gyda | Talaith Santa Elena, Talaith Manabí, Talaith Los Ríos, Talaith Bolívar, Talaith Chimborazo, Talaith Cañar, Talaith Azuay, Talaith El Oro |
Cyfesurynnau | 1.9°S 79.8°W |
Cod post | EC09 |
EC-G | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | prefect |
Pennaeth y Llywodraeth | Marcela Aguiñaga |
Talaith arfordirol yn ne-orllewin Ecwador yw Talaith Guayas (Sbaeneg: Provincia del Guayas). Mae'n ffinio â thaleithiau Santa Elena a Manabí i'r gorllewin, Los Ríos a Bolívar i'r gogledd-ddwyrain, Cañar ac Azuay i'r de-ddwyrain, ac El Oro a'r Cefnfor Tawel i'r de. Guayas yw talaith fwyaf poblog Ecwador, ac mae'n cynnwys Guayaquil, dinas fwyaf Ecwador. Rhennir y dalaith yn 25 o israniadau o'r enw cantones.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Ers canol yr 20g mae poblogaeth Guayas wedi cynyddu pumplyg, o 582,000 ym 1950, i 2 miliwn yn nechrau'r 1980au, i 3,645,000 yn 2010.[1]
Mae gan Guayas boblogaeth amlhiliol. Yn ôl cyfrifiad 2010, roedd 68% o boblogaeth y dalaith yn festisos, 11% yn montubios, 10% yn wynion, 10% yn dduon, ac 1% yn frodorion.[1]
Economi
[golygu | golygu cod]O ran moddion byw, mae 40% o'r gweithlu yn y sector breifat, 25% yn hunangyflogedig, 9% yn y sector gyhoeddus, 11% yn llafurwyr neu labrwyr wrth y dydd, 6% heb ateb, 5% yn weithwyr yn y cartref, 2% yn derbyn nawdd, 1% yn weithwyr di-dâl, ac 1% yn bartneriaid.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) "Fascículo Provincial Guayas (Resultados del Censo 2010)", Instituto Nacional de Estadística y Censos. Adalwyd ar 29 Mai 2021.