José Rizal
Jump to navigation
Jump to search
José Rizal | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
José Protacio Rizal Mercado y Alonso Realonda ![]() 19 Mehefin 1861 ![]() Calamba ![]() |
Bu farw |
30 Rhagfyr 1896 ![]() Achos: dienyddiad gan griw saethu ![]() Manila ![]() |
Dinasyddiaeth |
Y Philipinau ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
ysgrifennwr, ieithydd, ophthalmolegydd, arlunydd, arlunydd, gwleidydd, cymdeithasegydd, bardd ![]() |
Adnabyddus am |
Mi último adiós ![]() |
Tad |
Francisco Mercado ![]() |
Mam |
Teodora Alonzo ![]() |
Priod |
Josephine Bracken ![]() |
Partner |
Josephine Bracken ![]() |
Perthnasau |
Delfina Herbosa de Natividad ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Cenedlaetholwr a merthyr Philipinaidd oedd José Protacio Mercado Rizal de Alejandro, Lam-co Alonso de la Rosa, y Realonda de Quintos (19 Mehefin 1861 – 30 Rhagfyr 1896).[1] Roedd yn bolymath: bardd a llenor toreithiog, arlunydd, ac offthalmolegydd, ac roedd yn medru nifer o ieithoedd. Ymhlith ei nofelau mae Noli me Tangere a'r dilyniant, El Filibusterismo.
Roedd yn genedlaetholwr brwdfrydig a galwodd am annibyniaeth i'r Philipinau oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Yn ôl nifer o ysgolheigion, sbardunwyd Chwyldro'r Philipinau gan ddienyddiad Rizal. Heddiw dethlir Diwrnod Rizal yn y Philipinau pob blwyddyn er cof amdano. Mae tua 300,000 o bobl yng nghefn gwlad y Philipinau yn dilyn cwlt sy'n addoli Rizal fel duw neu Grist.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Jose Rizal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) Rizalist cult. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.