José Antonio Abreu
José Antonio Abreu | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | José Antonio Abreu Anselmi ![]() 7 Mai 1939 ![]() Valera ![]() |
Bu farw | 24 Mawrth 2018 ![]() Caracas ![]() |
Dinasyddiaeth | Feneswela ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pianydd, economegydd, gwleidydd, cyfansoddwr, arweinydd, academydd ![]() |
Swydd | member of the Chamber of Deputies of Venezuela ![]() |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Plaid Wleidyddol | Q5650836 ![]() |
Gwobr/au | Gwobr 'Right Livelihood', Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Francisco de Miranda, Gwobr Erasmus, Gwobr Glenn Gould, National Music Prize of Venezuela, Princess of Asturias Award for the Arts, Prif Ruban Urdd y Wawr, Gwobr Polar Music, Officier de la Légion d'honneur, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Latin Grammy Trustees Award, honorary doctor of the Chopin University of Music, Frankfurter Musikpreis ![]() |
Cerddor ac arweinydd cerddorfa o Feneswela oedd José Antonio Abreu Anselmi (7 Mai 1939 – 24 Mawrth 2018) a oedd hefyd yn economegydd, addysgwr, actifydd, a gwleidydd. Mae'n fwyaf adnabyddus ynghlŷn ag El Sistema, a oedd yn gynllun byd-enwog i hybu addysg gerddorol.
Gweithiodd fel athro economeg a chynllunio mewn gwahanol brifysgolion, a bu'n ddirprwy yng Nghyngres Feneswela. Gwasanaethodd fel Gweinidog Diwylliant Feneswela o 1988 i 1993. Ym 1975 sefydlodd Gerddorfa Symffoni Ieuenctid Genedlaethol Feneswela. Arweiniodd llwyddiant y gerddorfa hon at fwy o gerddorfeydd ieuenctid, gan arwain at El Sistema. Roedd ganddo'r weledigaeth i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol a thlodi drwy roi offeryn cerdd i blant a’u dysgu i chwarae mewn cerddorfa symffoni. Trwy gyflwyno pobl ifanc o deuluoedd tlawd i fyd cerddoriaeth, ceisiodd gynnig rhagolygon amgen iddynt.
Sefydlodd Cerddorfa Symffoni Simón Bolîvar ym 1978.
Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]
Enillodd Abreu nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys Gwobr Erasmus yn 2010.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) "All Laureates: José Antonio Abreu". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 23 Awst 2022.