El Sistema

Oddi ar Wicipedia
El Sistema
Enghraifft o'r canlynolbusnes, sefydliad addysgiadol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1975 Edit this on Wikidata
SylfaenyddJosé Antonio Abreu Edit this on Wikidata
PencadlysCaracas Edit this on Wikidata
GwladwriaethFeneswela Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://elsistema.org.ve/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynllun i hybu addysg gerddorol yn Feneswela yw El Sistema ("Y System"). Fe'i sefydlwyd yn 1975 gan José Antonio Abreu (1939–2018). Mae'r cynllun yn darparu addysg cerddoriaeth glasurol am ddim er mwyn cynnig cyfle i blant tlawd gael bywyd gwell. Erbyn 2015, yn ôl ffigurau swyddogol, roedd El Sistema yn cynnwys mwy na 400 o ganolfannau cerddorol a 700,000 o gerddorion ifanc.

Mae'r llysenw "El Sistema" wedi dod yn adnabyddus ledled y byd er mai yn wreiddiol "Fundación del Estado para el Sistema Nacional de las Orquestas Juveniles e Infantiles de Venezuela" oedd enw swyddogol y cynllun. Yn fwy diweddar, newidiwyd hynny i "Fundación Musical Simón Bolívar".

Mae'r cynllun wedi ennill cydnabyddiaeth ac edmygedd rhyngwladol, ac mae gwahanol elfennau ohono wedi cael eu mabwysiadu mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yr Alban (dan yr enw "Sistema Scotland"), yr Almaen, Canada, Colombia, Lloegr (dan yr enw "In Harmony"), Periw, Portiwgal, y Philipinau, yr Unol Daleithiau ac Wrwgwái.

Dadl[golygu | golygu cod]

Yn 2014 cyhoeddodd yr academydd Prydeinig Geoffrey Baker lyfr[1] a oedd yn dadlau yn erbyn llawer o’r honiadau a wnaed gan ac am El Sistema ac awgrymodd fod llawer o’r wybodaeth am y rhaglen yn orliwiedig neu’n ffug. Honnodd fod yna ddiwylliant o awdurdodaeth, gor-ddisgyblaeth, ecsbloetio, cystadleuaeth, a gwahaniaethu ar sail rhyw. Dadleuodd fod y cynllun yn geidwadol iawn o dan ei arwynebedd blaengar a bod ei honiadau o drawsnewid cymdeithasol heb eu profi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geoffrey Baker, El Sistema: Orchestrating Venezuela's Youth (Rhydychen: Oxford University Press, 2014)

Dolen allanol[golygu | golygu cod]