Jorethang
Gwedd
| Math | anheddiad dynol |
|---|---|
| Poblogaeth | 9,009 |
| Cylchfa amser | UTC+05:30 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Namchi district, Namchi subdivision |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 322 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 27°N 88°E |
| Cod post | 737126 |
![]() | |

Tref weddol fawr yn ardal De Sikkim, gogledd-ddwyrain India, yw Jorethang. Gorwedd y dref tua 300 m uwch lefel y môr. Mae ganddi boblogaeth o 2968. Mae Jorethang yn gorwedd ar lan Afon Rangeet, un o brif ledneintiau Afon Teesta.
Mae Jorethang yn gorwedd ar y ffordd i Pelling a Yuksom o Darjeeling, Siliguri a Kalimpong. Dros yr afon mae tref Naya Bazaar.
Amgylchynnir y dref gan fryniau coediog is-drofannol a cheir marchnad fywiog. Mae'n ganolfan cludiant bwysig gyda nifer o fysus a jeeps yn ei chysylltu â gweddill Sikkim ac Ardal Darjeeling (Gorllewin Bengal).
