John Roberts Evans (John R. Evans)
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o John Roberts Evans)
| John Roberts Evans | |
|---|---|
| Ganwyd | 1914 Llanbedr Pont Steffan |
| Bu farw | 1982 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Llenor Cymraeg oedd John Roberts Evans neu John R. Evans (1914 - 1982). Ysgrifennodd sawl drama ond fe'i cofir yn bennaf fel awdur nofelau a straeon byrion.[1]
Cafodd ei eni yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion yn 1914. Athro a phrifathro ysgol ydoedd wrth ei alwedigaeth. O 1954 hyd ei ymddeol yn 1976 bu'n brifathro ysgol gynradd Llanilar ac mae llawer o'i waith llenyddol yn ymwneud â'r fro honno. Dylanwad amlwg arall yn ei waith yw ei gyfnod yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Fflint 1969 am ei ddrama Y Briodas Arian, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Cyffiniau 1981 am Brawd am Byth, yn ogystal â sawl gwobr am ddramâu byr rhwng 1950 a 1981.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]Dramâu
[golygu | golygu cod]- Broc Môr (1956)
- Chwe Drama Fuddugol (1960) :
- Y Gorthrymedig (1956) ennill Cwpan Goffa Vera Jones 1956 (Urdd Dramodwyr Cymru)
- Y Drws Agored (1957) ennill Cwpan Goffa Vera Jones 1957 (Urdd Dramodwyr Cymru)
- Dianc (1954) ennill Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ystradgynlais 1954 [am y ddrama fer]
- Y Rhwyd (1958) ennill Eisteddfod Powys 1958
- Y Dyn Drws Nesa' (1959) ennill Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959 [am y ddrama fer]
- Y Llwybrau Tywyll (1956) ennill Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberdâr 1956 [am y ddrama fer]
- Ar Ymyl y Dibyn (1965)
- Cath mewn Cŵd (1981)
- Brawd am Byth (1981) ennill Tlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Cyffiniau 1981
- Man Du Fan Draw (1970)
- Hist! Mae'r Babi'n Cysgu (1970)
- Mae'r Peth Yn Swyddogol (1970)
Nofelau
[golygu | golygu cod]- Ar Drothwy'r Nos (1962)
- Y Delfrydwr (1968)
- Yn Dawel gyda'r Nos (1970)
- Y Cwm Cul (1980)
Straeon byrion
[golygu | golygu cod]Tri chasgliad:
- Blynyddoedd Coll (1960)
- Diwrnod Poeth (1963)
- Lleisiau yn y Niwl (1974)