Neidio i'r cynnwys

John Robert Jones (Llanuwchllyn)

Oddi ar Wicipedia
John Robert Jones
Ganwyd1887 Edit this on Wikidata
Bu farw1976 Edit this on Wikidata
Am sylfaenydd y Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru, gweler J. R. Jones, Ramoth, ac am yr athronydd, gweler J. R. Jones.

Roedd John Robert Jones (1887 - 1976) yn fargyfreithiwr.

Fe'i ganed yn Llanuwchllyn ym 1887. Aeth i Shanghai ym 1924 a daeth yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cyngor Rhyngwladol ym 1928. Cyflwynodd Gadair i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 1933 a grewyd yn amddifaty Catholig T'ou-se-we, ar gyrion Shanghai; creasid un debyg yn yr amddifary ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1926.[1]

Symudodd i Hong Cong lle roedd yn gynghorydd cyfreithiol i Fanc Hong Cong;[2] bu farw yno ym 1976 a chladdwyd ym Mynwent Hong Cong.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Amgueddfa Cymru
  2. Gwefan artsofasia.net Gwefan arts of Asia
  3. "Gwefan hkmemory.hk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-19. Cyrchwyd 2018-02-18.