Neidio i'r cynnwys

John Lyly

Oddi ar Wicipedia
John Lyly
Ganwyd1554 Edit this on Wikidata
Caint Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1606 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, llenor, nofelydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601 Edit this on Wikidata
llofnod

Dramodydd a rhyddieithwr o Loegr oedd John Lyly (tua 1554Tachwedd 1606). Un o Ffraethebwyr y Prifysgolion yn Oes Elisabeth ydoedd, a chafodd ddylanwad pwysig ar arddulliau rhyddiaith a chomedi'r theatr Saesneg.

Ganwyd yng Nghaint, a mae'n sicr iddo dreulio rhywfaint o'i fachgendod yng Nghaergaint, lle'r oedd ei dad yn gofrestrydd yng ngwasanaeth yr archesgobaeth. Aeth i Rydychen yn 1569 i astudio am raddau baglor (1573) a meistr (1575) yng Ngholeg Magdalen.[1] Symudodd i Lundain tua 1576, ac ymunodd â gosgordd Edward de Vere, Iarll Rhydychen, yn 1578.[2]

Daeth yn adnabyddus am ei ddwy ramant epistolaidd Euphues: The Anatomy of Wit (1578) ac Euphues and His England (1580). Gellir ystyried cylch Euphues yn ffurf gynnar ar y nofel Saesneg ac yn esiampl o gomedi foesau. Rhoddir y gwaith hwn ei enw i "ewffiwyddiaeth", arddull cymhleth sy'n defnyddio gwrthgyferbyniadau, cyflythrennu, a chwestiynau rhethregol.

Wedi 1580, ysgrifennodd Lyly gomedïau yn bennaf: Campaspe a Sapho and Phao (1583–84), Gallathea (1585–88), Endimion (1588), Midas (1589), Love’s Metamorphosis (1590), Mother Bombie (1590), a The Woman in the Moon (1595). Cawsant eu perfformio gan gwmni Children of Paul's, ac eithrio The Woman in the Moon.[3]

Priododd Beatrice Brown yn 1583 a chawsant wyth o blant.[1] Gadawodd Lyly osgordd Iarll Rhydychen tua 1588, a gwasanaethodd yn Aelod Senedd Lloegr o 1589 i 1601. Roedd yn un o wŷr llys y Frenhines Elisabeth, a fe'i benodwyd yn ysgrifennydd yn swyddfa Meistr y Gyfeddach.[2] Er i ddramodwyr eraill megis Thomas Kyd, Christopher Marlowe, a William Shakespeare efelychu ei gomedïau rhamant, bu llai o lewyrch ar Lyly nah a fu, a chafodd ei anwybyddu pan ofynnodd i'r Frenhines am gymorth ariannol. Bu farw yn Llundain, yn ddyn tlawd.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 William Allan Neilson (gol.), Chief Elizabethan Dramatists (Efrog Newydd: Houghton Mifflin, 1911), t. 869.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Lyly, John" yn Contextual Encyclopedia of World Literature (Gale, 2009). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 26 Chwefror 2019.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) John Lyly. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Chwefror 2019.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Joseph W. Houppert, John Lyly (Boston: Twayne, 1975).