Ewffiwyddiaeth
Enghraifft o'r canlynol | techneg llenyddol, mudiad llenyddol |
---|
Arddull lenyddol o ryddiaith gywrain yw ewffiwyddiaeth[1] a nodweddir gan ormodedd o ddulliau rhethreg megis gwrthgyferbyniadau, cyflythrennu, cwestiynau rhethregol, a chydbwysedd, a throsiadau sydd yn cyfeirio at fytholeg a natur. Cysylltir yr enw yn bennaf â llenyddiaeth Saesneg Oes Elisabeth.
Daw'r enw o'r cymeriad Euphues a ymddengys mewn dwy ramant epistolaidd gan y llenor John Lyly: Euphues: The Anatomy of Wit (1578) ac Euphues and His England (1580). Gellir ystyried cylch Euphues yn ffurf gynnar ar y nofel Saesneg ac yn esiampl o gomedi foesau. Bu'r arddull yn ffasiynol am gyfnod, a châi'r ewffiwyddion ddylanwad pwysig ar ddatblygiad rhyddiaith fodern yn y Saesneg. Gwelir dylanwad yr arddull mewn gwaith llenorion amlyca'r oes, gan gynnwys Robert Greene a'r feistr ei hun, William Shakespeare.[2]
Defnyddir y term hefyd i gyfeirio at arddull gymhleth debyg mewn ieithoedd eraill, er enghraifft gwaith Antonio de Guevara yn y Sbaeneg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "euphuism".
- ↑ (Saesneg) Euphuism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Hydref 2021.