John Hawkwood
John Hawkwood | |
---|---|
Ganwyd | 1321 Sible Hedingham |
Bu farw | 1394 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | condottieri, marchog |
Tad | Gilbert Hawkwood, of Hedington Sible |
Priod | Donnina Visconti |
Plant | Antiocha|Mary Hawkwood, Beatrice Hawkwood |
Hurfilwr o Loegr oedd Syr John Hawkwood (Eidaleg: Giovanni Acuto; tua 1320 – 16 neu 17 Mawrth 1394) ac oedd yn un o condottieri amlycaf y 14g.
Ganed yn Sible Hedingham, Essex, yn fab i farcer. Aeth yn filwr yn ystod cyfnod cynnar y Rhyfel Can Mlynedd, ac mae'n debyg iddo gael ei urddo'n farchog gan y Brenin Edward III am frwydro yn erbyn y Ffrancod. Cafwyd cadoediad yn sgil Cytundeb Brétigny (1360), a phenderfynodd Hawkwood arwain cwmni ei hun o filwyr am dâl. Tua 1363 aeth i'r Eidal i ymuno â llu o hurfilwyr Seisnig o enw'r Cwmni Gwyn mewn gwasanaeth Gweriniaeth Pisa, ac yn Ionawr 1364 fe'i etholwyd yn ben-capten arnynt. Tynnodd Hawkwood ar ei brofiadau yn Ffrainc drwy ddefnyddio'r bwa hir a symudiadau chwim ar faes y gad, gydag arfwisg a chyfarpar ysgafn, ac enillodd barch am ddisgyblaeth ei luoedd a'i dactegau.[1]
Yn y cyfnod 1372–78 brwydrodd Hawkwodd dros y Babaeth a Milan. Ym 1377 priododd â Donnina Visconti, merch anghyfreithlon Bernabò Visconti, Arglwydd Milan. Penodwyd Hawkwood yn gapten ar Weriniaeth Fflorens ym 1378, a pharhaodd i ymladd dros gyflogwyr eraill. Ym 1382 gwerthodd Hawkwodd ei diroedd ger Ravenna, yn rhanbarth y Romagna, a roddwyd iddo gan y pab, a phrynodd ystadau ar gyrion Fflorens. Derbyniodd ddinasyddiaeth anrhydeddus oddi ar Fflorens ym 1391. Dechreuodd Hawkwood baratoi i ddychwelyd i Loegr yn niwedd ei oes, a gwerthodd ei ystadau yn yr Eidal ym 1394, ond bu farw yn Fflorens cyn iddo allu symud yn ôl i'w famwlad.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Sir John Hawkwood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Awst 2020.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- William Caferro, John Hawkwood: An English Mercenary in Fourteenth-Century Italy (Baltimore: Johns Hopkins University Press, 2006)
- Stephen Cooper, Sir John Hawkwood: Chivalry and the Art of War (Barnsley, De Swydd Efrog: Pen & Sword Military, 2008)
- Frances Stonor Saunders, Hawkwood: Diabolical Englishman (Llundain: Faber and Faber, 2004)