John Disley

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Disley
Ganwyd 20 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Bu farw 8 Chwefror 2016 Edit this on Wikidata (87 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, cyfeiriannydd Edit this on Wikidata
Priod Sylvia Cheeseman Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Safle rasys ffos a pherth Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeon Cymru Edit this on Wikidata

Athletwr Cymreig oedd John Ivor Disley (20 Tachwedd 19288 Chwefror 2016). Cystadlodd yn bennaf yn y ras ffos a pherth 3000m cyn cyd-sefydlu Marathon Llundain a dod yn weithgar yn hyrwyddo a rheoli chwaraeon.[1] Ganwyd ym mhentre Corris yng Ngwynedd ac aeth i Ysgol Uwchradd Croesoswallt i Fechgyn cyn astudio yng Ngholeg Loughborough.[1]

Cystadlodd dros Brydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Haf 1952, Helsinki yn y ras ffos a pherth 3000 metr lle enillodd fedal efydd.[2] Sefydlodd bum record Brydeinig yn y ras ffos a pherth a phedwar yn y ras dwy filltir. Sefydlodd record Gymreig mewn chwe pellter gwahanol. Torrodd y record ar gyfer croesi pob copa Cymreig dros 3000 troedfedd.

Cynrychiolodd Gymru ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad, gan gystadlu yn 1954 a 1958, ond ni enillodd unrhyw fedalau. Swydd Disley oedd dysgu Addysg Gorfforol yn Ysgol Ramadeg Isleworth yn ne-orllewin Llundain.[1]

Disley oedd un o sefydlwyr Marathon Llundain, a gynhaliwyd gyntaf yn 1981, ar ôl iddo redeg Marathon Dinas Efrog Newydd yn 1979 ac edmygu ei lwyddiant. Roedd yn llywydd Ymddiriedolaeth Elusennol Marathon Llundain.[2] Daeth Disley yn is-gadeirydd Cyngor Chwaraeon y DU yn 1974, swydd a wnaeth hyd 1982. Roedd yn un o brif arloeswyr cyfeiriadu yn y DU.

Roedd yn aelod o Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru ac yn Llywydd Cymdeithas Eryri.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 John Disley: London Marathon co-founder dies aged 87 (en) , BBC. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 Marw’r athletwr, John Disley, yn 87 oed , Golwg360. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwobrau
Rhagflaenydd:
Ken Jones
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1955
Olynydd:
Joe Erskine