John Cheke

Oddi ar Wicipedia
John Cheke
Engrafiad o Syr John Cheke gan Joseph Nutting (1705).
Ganwyd16 Mehefin 1514 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 1557 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, academydd, ysgolhaig clasurol Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552, Member of the March 1553 Parliament Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadPeter Cheke Edit this on Wikidata
MamAgnes Duffield Edit this on Wikidata
PriodMary Cheke Edit this on Wikidata
PlantHenry Cheke, Anhysbys Cheke Edit this on Wikidata

Ysgolhaig o Sais oedd Syr John Cheke (sillefir hefyd Cheek; 16 Mehefin 151413 Medi 1557).[1]

Ganed ef yng Nghaergrawnt, ac yno daeth yn gymrawd yng Ngholeg Sant Ioan. Yn sgil y Diwygiad Protestannaidd, trodd Cheke Brifysgol Caergrawnt yn ganolfan i grefydd Ddiwygiedig a dyneiddiaeth y Dadeni. Fe'i penodwyd yn Athro Brenhinol cyntaf Caergrawnt yn yr iaith Roeg gan y Brenin Harri VIII ym 1540. Gyda'i gyfaill a chyd-academydd Thomas Smith, darganfyddasant y ffordd gywir o ynganu'r Hen Roeg. Bu'n diwtor i'r Tywysog Edward ym 1544, ac chafodd ei urddo'n farchog gan efe—Edward VI—ym 1552.

Yn sgil esgyniad Mari I i'r orsedd ym 1553, diswyddwyd Cheke o'i swyddi gwladwriaethol a ffoes i'r Cyfandir. Cyhoeddwyd ei ohebiaeth â'r Esgob Stephen Gardiner ar bwnc ynganiad Groeg yn Basel ym 1555. Ar ei ffordd o Frwsel i Antwerp, yn yr Iseldiroedd Hapsbwrgaidd, ym 1556, cipiwyd Cheke ar orchymyn Felipe II, brenin Sbaen, gŵr y Frenhines Mari, a chafodd ei ddwyn yn ôl i Loegr a'i garcharu yn Nhŵr Llundain. Mewn ymgais i osgoi dienyddiad, gwadodd ei ffydd Brotestannaidd yn gyhoeddus, ac o'r herwydd dywed iddo farw o'i gywilydd, yn 43 oed.

Ysgolhaig o fri ydoedd, ac er iddo ysgrifennu ond ychydig yn iaith y werin (yn ogystal â nifer o gyfieithiadau o'r Roeg i Ladin), bu'n ddylanwadol wrth hyrwyddo arddull syml o ryddiaith Saesneg yn yr 16g.[2] Cyfeirir ato ("O soul of Sir John Cheek") yn Soned XI, "A Book was writ of late", gan John Milton.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sir John Cheke. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Tachwedd 2022.
  2. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), tt. 191–2.