John Ball

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Ball
John Ball encouraging Wat Tyler rebels from ca 1470 MS of Froissart Chronicles in BL.jpg
Ganwyd1338 Edit this on Wikidata
St Albans Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 1381 Edit this on Wikidata
Coventry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol St Albans Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad, henuriad, gwleidydd Edit this on Wikidata

Offeiriad o Sais ac un o arweinwyr Gwrthryfel y Werin oedd John Ball (bu farw 15 Gorffennaf 1381).

Cafodd ei eni yn St Albans, Swydd Hertford. Teithiodd i Efrog a Colchester fel pregethwr. Cafodd ei ysgymuno tua'r flwyddyn 1366 am ei bregethau tanbaid oedd yn dadlau dros gymdeithas heb ddosbarthau, ond parhaodd i bregethu mewn marchnadau a mannau awyr agored. Wedi 1376, cafodd ei garcharu nifer o weithiau.

Darluniad o John Ball ar gefn ceffyl yn ysbrydoli'r gwrthryfelwyr yn nghroniclau Jean Froissart (tua 1470).

Ar ddechrau Gwrthryfel y Werin, ym Mehefin 1381, cafodd ei achub o garchar Maidstone yng Nghaint gan wrthryfelwyr a theithiodd gydant i Lundain. Yno, cynhyrfodd torf yn Blackheath gyda'r testun When Adam dalf and Eve span, Who was then a gentleman?,[1] hynny yw, yn oes Adda ac Efa, pwy oedd yr uchelwyr?

Yn sgil methiant y gwrthryfel, cafodd Ball ei roi ar brawf a'i grogi yn St Albans.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) John Ball. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.