Gwrthryfel y Werin

Oddi ar Wicipedia
Gwrthryfel y Werin
Enghraifft o'r canlynolpeasant revolt, gwrthryfel Edit this on Wikidata
DyddiadTachwedd 1381 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Mai 1381 Edit this on Wikidata
Daeth i benTachwedd 1381 Edit this on Wikidata
LleoliadLloegr Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwrthryfel yn Lloegr ym 1381 oedd Gwrthryfel y Werin[1] neu Wrthryfel y Gwerinwyr.[1] Achoswyd gan sefyllfa economaidd wael y bobl gyffredin ac yn enwedig cyflwyniad treth y pen dan y Brenin Rhisiart II[2] a'r Pla Du yn y 1340au. Ymhlith arweinwyr y gwrthryfel oedd Wat Tyler a John Ball.

Ond yr hyn a ffrwydrodd y sefyllfa oedd ymweliad John Bampton yn Essex ar 30 Mai 1381 pan geisiodd gasglu trethi yn nhref Brentwood. Trowyd at drais a ledaenodd ar hyd a lled de-ddwyrain Lloegr fel tân gwyllt. Ymunodd y bobl gyffredin yn y brotest gan losgi llysoedd ac agor drysau'r carchardai. Nod y gwrthryfelwyr oedd lleihau'r trethi, rhoi diwedd ar y drefn o daeogaeth a diddymu llysoedd a swyddogion y Brenin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [peasant: the Peasants' Revolt].
  2. (Saesneg) Peasants' Revolt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2014.