Jez Lowe

Oddi ar Wicipedia
Jez Lowe yng Ngŵyl Tegeingl, 2012; llun gan Llinos Lanini (www.llinoslanini.com)

Canwr a chyfansoddwr caneuon yw Jez Lowe (ganwyd 14 Gorffennaf 1955) a magwyd yn Easington Colliery, Swydd Durham. Mynychodd Ysgol Ramadeg Sant Ffrancis yn Hartlepool a dysgoedd ieithoedd yng Ngholeg Polytechneg Sunderland.

Mae o'n chwarae gitâr, mandolin, cittern ac organ geg. Weithiau mae o'n gweithio efo band, sef Y Bad Pennies. Aelodau eraill y band yw Kate Bramley (llais a ffidil), Andy May, (accordian, pibellau a chwibanoglau), a David de la Haye (gitâr bâs).

Andy May yng Ngŵyl Tegeingl, 2012

Mae o wedi teithio'r byd dros y blynyddoedd, y perfformio ei ganeuon yn Awstralia, Seland Newydd, Yr Unol Daleithiau a Chanada.[1]

Mae o wedi rhyddhau sawl albwm ar label Tantobie, ei label ei hun; Jez Lowe, The Old Durham Road, Bad Penny, Galloways, Bede Weeps, Fighting the Tide, Briefly on the Street, Doolally, Wotcheor, Two a Roue (efo Jake Walton), The Parish Notices, Tenterhooks, Northern Echoes, Live at the Davy Lamp, Jack Common's Anthem, Honesty Box ac Heads Up.

Mae o wedi cyfrannu at sawl prosiect efo cerddorion eraill, megis All Along the Wall (CD a pherfformiadau byw (yn ymwneud â Gwal Hadrian), y Baledi Radio (prosiect y BBC, yn efelychu cyfres arloesol gan Charles Parker ac Ewan McColl) a'r Prosiect Darwin(Prosiect y BBC a Gŵyl Werin Amwythig i greu caneuon perthnasol i hanes Charles Darwin[2]) ac yn 2012, ail cyfres y Baledi Radio am hanes y Gemau Olympaidd[3].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan The Journal[dolen marw]
  2. "Gwefan y Prosiect Darwin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-31. Cyrchwyd 2012-10-31.
  3. Gwefan 'The Ballad of the Games'[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]