Jeff Gordon
Gwedd
Jeff Gordon | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Awst 1971 ![]() Vallejo ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | perchennog NASCAR, gyrrwr ceir cyflym, cyflwynydd chwaraeon ![]() |
Cyflogwr | |
Taldra | 1.73 metr ![]() |
Pwysau | 68 cilogram ![]() |
Priod | Ingrid Vandebosch ![]() |
Gwefan | https://jeffgordon.com ![]() |
Chwaraeon |
Gyrrwr ceir o'r Unol Daleithiau yw Jeff Gordon (ganwyd 4 Awst 1971, Vallejo, Califfornia. Roedd yn bencampwr cyffredinol rasio NASCAR bedair gwaith ym 1995, 1997, 1998, a 2001. Mae hefyd yn bencampwr y Daytona 500 dair gwaith. Enillodd y gyfres Sprint Cup dair gwaith.
Mae'n gyd-berchennog gyda Rick Hendrick ar dîm #48 Lowe's Chevrolet sy'n cael ei yrru gan Jimmie Johnson, sydd hefyd wedi ennill y Cwpan Sprint NASCAR yn 2006, 2007, 2008, a 2009.
Gordon oedd y gyrrwr NASCAR cyntaf i ennill cyfanswm o $100 miliwn yn ystod ei yrfa. Ef hefyd oedd y gyrrwr cyflymaf yn hanes NASCAR i allu cyflawni 50 buddugoliaeth. Hyd yn hyn, mae Gordon wedi ennill ras NASCAR 82 o weithiau.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Safle swyddogol (Saesneg)

