Jafaneg
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | iaith naturiol, iaith fyw, iaith, human language, iaith safonol, iaith lenyddol, macroiaith ![]() |
---|---|
Math | Ieithoedd Malayo-Polynesaidd ![]() |
![]() | |
Enw brodorol | Basa Jawa ![]() |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | jv ![]() |
cod ISO 639-2 | jav ![]() |
cod ISO 639-3 | jav ![]() |
Gwladwriaeth | Indonesia, Maleisia, Singapôr ![]() |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Pegon alphabet, Kawi script, Javanese script, Formal Javanese Spelling ![]() |
![]() |
Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd ac is-deulu'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd yw Jafaneg (Basa Jawa). Fe'i siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain ynys Jawa yn Indonesia, ond ceir siaradwyr yn Swrinam a Caledonia Newydd. Mae rhwng 80 a 100 miliwn o siaradwyr i gyd, sy'n rhoi yr iaith yn 11fed ymhlith ieithoedd y byd.
Yr arysgrif hynaf i'w ddarganfod mewn Jafaneg yw Arysgrif Sukabumi, a ddyddir i 25 Mawrth 804. Mae gan yr iaith ei gwyddor ei hun, ond gellir ei hysgrifennu gyda'r wyddor Ladin hefyd. Ceir gwahanol ffurfiau ar yr iaith yn dibynnu ar statws cymdeithas cymharol y siaradwr a'r bobl y mae'n siarad a hwy. Siaredir ffurf Kromo a phobl o staws uwch na'r siaradwr, a Ngoko a phobl o statws is.
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/