J. Towyn Jones

Oddi ar Wicipedia
J. Towyn Jones
Ganwyd29 Mai 1942 Edit this on Wikidata
Capel Iwan, Boncath Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 2019 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, hanesydd Edit this on Wikidata

Gweinidog, hanesydd ac awdur o Gymro oedd y Parchedig J. Towyn Jones (29 Mai 194218 Tachwedd 2019)[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef yn nhy teulu ei fam yn Blaenpistyll, Boncath, Sir Benfro, unig blentyn Thomas Emrys a Annie Mary Jones. Symudodd y teulu o fewn ychydig wythnosau i ffarm yn Sir Gaerfyrddin.[2] Aeth i Goleg Celf Caerfyrddin ac roedd yn arlunydd.[3] Fe'i wnaed yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ar 10 Ebrill 1972.

Cafodd ei ordeinio yn weinidog yn 1964. Gwasanaethodd fel gweinidog mewn sawl capel yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin hyd at 2015.

Roedd yn hanesydd brwd ac roedd yn adnabyddus fel hanesydd lleol ac adroddwr straeon yn ei sir enedigol. Roedd yn llywydd ar Gymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin. Roedd yn gyfrannwr cyson ar radio a theledu ers y 1970au ar raglenni fel Heddiw. Parhaodd yn gyfrannwr cyson i Radio Cymru ac S4C yn arbenigo ym maes llen gwerin ac ysbrydion. Mewn cyfarfod cyffredinol o "The Ghost Club" yn Llundain ar 19 Hydref 2013, gwnaed Towyn yn "Aelod Anrhydeddus am Oes" am ei ymchwil i'r uwchnaturiol yng Nghymru a'i cyfraniad i'r Clwb (a ffurfiwyd yn 1862).[4]

Fe'i dderbyniwyd i Orsedd y Beirdd gyda wisg wen yn 2000.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd ganddo ddau o blant, Catrin ac Orinda. Ei bartner oedd Margaret Edwards.[5]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yn 77 mlwydd oed. Roedd Alun Lenny yn ei gofio fel "person ecsentrig iawn, i’w weld o gwmpas y dref yn gwisgo bow-tei bob amser... Ac rwy’n cofio galw i’w weld un noson, ac roedd yn gwisgo smoking jacket sidan.". Roedd Towyn hefyd yn hoff o opera, ac unwaith y mis byddai'n mynd i bregethu yn y capeli Cymraeg yn Llundain, ac yn aros yno am ddwy neu dair noson i fanteisio ar y cyfle i fynd i weld opera. Cynhaliwyd gwasanaeth ei angladd yng Nghapel Smyrna, Llangain, Caerfyrddin, ar fore Sadwrn, Tachwedd 30 ac fe'i gladdwyd ym Mynwent Eglwys Sant Llawddog, Penboyr ger Dre-fach Felindre.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ar Lwybr Llofrudd (Gomer, 1970)
  • Borley Cymru (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
  • Rhag Ofn Ysbrydion (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2009).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Talu teyrnged i’r Parchedig J Towyn Jones – dyn “ecsentrig a diwylliedg iawn” , Golwg360, 21 Tachwedd 2019.
  2.  The Chairman : J. Towyn Jones. Adalwyd ar 24 Tachwedd 2019.
  3. Y Parch. J Towyn Jones wedi marw yn 77 oed , BBC Cymru Fyw, 18 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 22 Tachwedd 2019.
  4.  Facebook - Towyn Jones. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2019.
  5. 5.0 5.1  Cyhoeddiad marwolaeth. Western Mail (23 Tachwedd 2019). Adalwyd ar 24 Tachwedd 2019.