Iwan Teifion Davies

Oddi ar Wicipedia

Mae Iwan Teifion Davies yn arweinydd[1] a pianydd o Gymru. Iwan yw cyfarwyddwr artistig OPRA Cymru[2], fe wnaeth ef arwain y perfformiad cyntaf yn y byd o opera Cymraeg Gareth Glyn ac mae hefyd yn phennaeth Cerdd Gŵyl Ryngwladol Buxton. Ers 2021, mae Iwan hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth[3][4]. Ei brif ddyletswydd fel y cyfarwyddwr cerdd yw arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Penodwyd yn gyfarwyddwr artistig Musicfest Aberystwyth yn 2023.

Astudiodd Iwan yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt, Ysgol Gerdd a Guildhall a Stiwdio'r Opera Genedlaethol yn Llundain, lle y bu'n rhan o amryw berfformiadau mewn cydweithrediad ag Opera Gogledd Lloegr, Opera'r Alban a chwmni Opera Cenedlaethol Cymru.

Tu allan i gerddoriaeth, mae Iwan Teifion Davies yn fardd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Iwan Teifion Davies". mysite (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-11.
  2. "Amdanom ni". OPRA Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-11.
  3. "Newyddion, Prifysgol Aberystwyth". www.aber.ac.uk. Cyrchwyd 2024-01-11.
  4. "Philomusica of Aberystwyth - Musical Director". www.philomusica.cymru. Cyrchwyd 2024-01-11.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.