Iwan B

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Iwan B
Iwanb-anoriant2008.png
Iwan B yng Ngŵyl Lorient, 2008
Ganwyd 2 Hydref 1984 Edit this on Wikidata
Les Lilas Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Canwr Edit this on Wikidata
Arddull Cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.iwanb.com Edit this on Wikidata

Cerddor ydy Iwan Benead neu Iwan B, o dras Lydewig. Ganwyd yn ardal Les Lilas o Baris, ar 2 Hydref 1984, yn fab i gerddor proffesiynol, dechreuodd astudio piano a theori cerddorol pan oedd yn 5 oed. Pan oedd yn 9, ymunodd â'r Academi Gerddoriaeth ym Mharis.

Yn 2002, graddiodd ac yn 2004 enillodd radd pellach o 'Paris Atla School of Music'. Yn 2007, enillodd ei ddiploma 3rd cycle yn yr Academi. Mae wedi bod ar daith ag artistiaid eraill gan chwarae mewn neuaddau cyngerdd megis “7 Lézards,” “Le Baiser Salé” a “New Morning”. Daw ei deulu'n wreiddol o Lydaw, ac yn 2003 penderfynodd ddysgu Llydaweg. Daeth yn hoff o gerddoriaeth yr iaith a dechreuodd ysgrifennu caneuon; gan ddefnyddio ysbrydoliaeth o fathau cyfoes o gerddoriaeth megis Pop, Rap a Reggae.

Ar 31 Mai 2007 yn Roazhon, enillodd wobr 'dyfodol yr iaith Llydaweg' yn nhrydydd blwyddyn y wobr, yn y categori 'unigolyn preifat'. Deuddydd yn ddiweddarach enillodd y springboard cerddorol cyntaf yn Karaez ar devezh ar brezhoneg (Llydaweg am 'ddydd yr iaith'). Mae Iwan wedi dechrau gweithio ar ei albwm cyntaf o dan yr enw 'Iwan B'.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

MySpace Iwan B