Ithaca

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vathi, De Ithaca

Un o'r Ynysoedd Ionaidd oddi ar arfordir gorllewinol Gwlad Groeg yw Ithaca (in Groeg, Ιθάκη, Ithaki). Mae ganddi arwynebedd o 118 km² a phoblogaeth o tua 3,000. Saif i'r gogledd-ddwyrain o ynys fwy Ceffalonia. Y brifddinas yw Vathý, sy'n berchen harbwr naturiol gyda'r mwyaf yn y byd.

Cyrhaeddodd Ithaca uchafbwynt ei phwysigrwydd yng nghyfnod y Gwareiddiad Myceneaidd, (1500-1100 CC), pan ddaeth yn brif ganolfan y gwladwriaethau Ceffalonaidd. Mae'n enwog fel cartref yr arwr Odysseus yng ngwaith Homeros. Yn yr Odysseia ceir hanes Odysseus a'i daith adref i Ithaca wedi i'r Groegiaid goncro Caerdroea.