Iolaire
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | llong ![]() |
---|---|
![]() | |
Gweithredwr | y Llynges Frenhinol ![]() |
Gwneuthurwr | Ferguson Marine ![]() |
Rhanbarth | Ynysoedd Allanol Heledd ![]() |

Roedd Iolaire yn gwch y suddodd ger harbwr Steòrnabhagh ar 1 Ionawr 1919 mewn storom. Adeiladwyd y cwch yn Leith yn iard Ramage a Ferguson ym 1881, ac oedd o’n gwch preifat yn wreiddiol. Llogwyd y cwch gan y llynges ym 1915. Enwau cynharach y cwch oedd Amalthea, Iolanthe a Mione[1]. Bu farw o leiaf 201 o’r 283 pobl ar y cwch, y mwyafrif yn forwyr ar eu ffordd adref ar ôl gwasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cyraeddasant Kyle of Lochalsh ar drenau. Roedd y fferi’n llawn, felly anfonwyd y gweddill ar Iolaire.[2]
Nofiodd John Finlay i’r lan gyda raff, ac achubwyd tua 40 ohonynt gan ei weithred.[2]


Codwyd cofeb ym 1958 yn Holm, ger Steòrnabhagh.[3] Mae cofeb arall yn y dref, ac mae pilar ar safle’r llongdrylliad, yn ymyl yr harbwr.
Ystyr ei enw yw Eryr.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Swyddfa Cofnodion yr Alban
- ↑ 2.0 2.1 Gwefan BBC
- ↑ "Iolaire Memorial". Gazetteer for Scotland. Cyrchwyd 2009-07-26.