Index on Censorship
Jump to navigation
Jump to search
Sefydliad yn y DU sy'n hyrwyddo rhyddid mynegiant yw Index on Censorship. Mae'n cynnal gwefan lle ceir newyddion a gwybodaeth ar ryddid mynegiant a sensoriaeth ar draws y byd. John Kampfner yw'r prif weithredwr. Mae'r pencadlys yn Llundain, Lloegr.
Sefydlwyd Index on Censorship fel cylchgrawn yn 1972, dan olygyddiaeth Michael Scammell, fel platfform i grŵp o newyddiadurwyr, awduron ac artistiaid, dan arweiniad y bardd Stephen Spender, i amddiffyn yr hawl dynol i ryddid mynegiant yn yr Undeb Sofietaidd a gwledydd Cytundeb Warsaw. Ers hynny mae wedi tyfu i fod yn un o'r sefydliadau sy'n hyrwyddo rhyddid mynegiant amlycaf yn y byd.[1]
Aelodau'r Bwrdd[golygu | golygu cod y dudalen]
Rheolir y sefydliad gan Fwrdd. Yr aelodau yw (2010)[1]:
- Jonathan Dimbleby (Cadeirydd)
- Katie King
- Yr Arglwydd Ken MacDonald QC
- Kenan Malik
- David Membrey
- Syr Andrew Motion
- Alexandra Pringle
- Mark Stephens
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 About Index on Censorship, gwefan Index on Censorship.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan swyddogol (Saesneg)