Ilhan Omar

Oddi ar Wicipedia
Ilhan Omar
Ganwyd4 Hydref 1982 Edit this on Wikidata
Mogadishu Edit this on Wikidata
Man preswylMinneapolis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Somalia Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
  • North Dakota State University
  • University of North Dakota
  • Edison High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, political staffer, gwas sifil, ymgyrchydd, policy advisor Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Minnesota House of Representatives, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThis is What America Looks Like Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolMinnesota Democratic–Farmer–Labor Party, plaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadNur Omar Mohamed Edit this on Wikidata
PlantIsra Hirsi Edit this on Wikidata
Gwobr/auOkayAfrica 100 Benyw, OkayAfrica 100 Benyw Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ilhanomar.com/ Edit this on Wikidata

Mae Ilhan Omar (ganwyd 4 Hydref 1981) yn wleidydd ac ymgyrchydd Somali-Americanaidd a'r Somaliad-Americanaidd cyntaf i'w hethol i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau[1] Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, ac wedi cynrychioli '5ed ardal gyngresol Minnesota' yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ers 3 Ionawr 2019, ardal sy'n cynnwys dinas Minneapolis a rhai o'i maesdrefi.[2][3][4]

Fel aelod o'r grŵp Congressional Progressive Caucus, bu'n ymgyrchydd gweithgar dros gyflog byw, tai fforddiadwy, gofal iechyd, dileu'r angen i ad-dalu benthyciadau myfyrwyr ayb. Ar y llaw arall mae hi wedi bod yn lladmerydd brwd yn erbyn rhai o bolisiau yr Arlywydd Donald Trump, yn enwedig ei bolisi ar fewnfudo, sef yr hyn a elwir yn Trump travel ban.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed ar 4 Hydref 1981 yn Mogadishu (Somaleg: Muqdisho), prif ddinas Somalia, ar Gorn Affrica. Hi oedd yr ifancaf o 7 o blant. Athro oedd ei thad Nur Omar Mohamed a bu farw ei mam, Fadhuma Abukar Haji Hussein, pan oedd Ilhan Omar yn ddwy oed a magwyd hi gan ei thad a'i thaid. Roedd nifer o'i theulu'n weithwyr sifil neu'n addysgwyr.[5].[6][7] Dihangodd ei theulu yn sgil Rhyfel Cartref y wlad yn 1991 a threuliodd bedair mlynedd mewn gwersyll i ffoaduriaid.

Sylw[golygu | golygu cod]

Denodd Omar wrthwynebiad gan gefnogwyr y Gwerinaethwyr a rhai Democratiaid am ei sylwadau yn ymwneud â grym honedig grwpiau Iddewig a gwladwriaeth Israel dros wleidyddiaeth yr UDA ac am ei chefnogaeth i achos y Palesteiniaid. Denodd ei sylwadau, "“I want to talk about the political influence in this country that says it is okay to push for allegiance to a foreign country,” ymateb chwyrn gan rai.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://www.bbc.co.uk/news/av/world-africa-39711493/somali-american-ilhan-omar-on-historic-us-election-win
  2. Golden, Erin (7 Tachwedd 2018). "Ilhan Omar makes history, becoming first Somali-American elected to U.S. House". Star Tribune. Cyrchwyd November 7, 2018.
  3. O'Grady, Siobhán (7 Tachwedd 2018). "Trump demonized Somali refugees in Minnesota. One of them just won a seat in Congress". Washington Post. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2018.
  4. "NDSU Fall 2011 Graduates" (PDF).
  5. Nodyn:CongBio
  6. Reinl, James (15 Tachwedd 2016). "Ilhan Omar: First female Somali American lawmaker". Al Jazeera. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2017.
  7. Omar, Ilhan (16 Mehefin 2016). "Questions from a 5th grader". Neighbors for Ilhan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-31. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2017.
  8. https://www.vox.com/policy-and-politics/2019/3/6/18251639/ilhan-omar-israel-anti-semitism-jews