Ifor Hael (cylchgrawn)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ifor Hael (Welsh Journal).jpg

Roedd y cylchgrawn Ifor Hael[1] yn gylchgrawn cyffredinol misol, Cymraeg ei iaith, a gyhoeddwyd gan Gymdeithas lesiant yr Iforiaid. Roedd y cylchgrawn yn canolbwyntio ar gyhoeddi erthyglau ar faterion cyfoes, daearyddiaeth, seryddiaeth, yr iaith Gymraeg ac ar ddyletswyddau'r Iforiaid, ynghyd a newyddion cartref a tramor, adolygiadau a barddoniaeth. Cyhoeddwyd y cylchgrawn yng Nghaerfyrddin yn 1850, yn olynydd i'r cylchgrawn Yr Iforydd a gyhoeddwyd gan y Cyfundeb Iforaidd yng Nghaerfyrddin rhwng 1841-1842, ac yn ragflaenydd i'r cylchgrawn Y Gwladgarwr a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Gwir Iforiaid yng Nghaerfyrddin ym 1851.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Wales (1959–present).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.