Iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws 2019-20

Oddi ar Wicipedia

Mae achosion o glefydau heintus, fel Coronafeirws (COVID-19), yn gallu codi ofn ac effeithio ar iechyd meddwl.

Mae'r canllawiau ar iechyd meddwl a chefnogaeth seicogymdeithasol y Cenhedloedd Unedig yn argymell mai egwyddorion craidd cymorth iechyd meddwl yn ystod argyfwng yw; peidiwch â gwneud unrhyw niwed, hyrwyddo hawliau dynol a chydraddoldeb, defnyddio dulliau cyfranogol, adeiladu ar y presennol adnoddau a galluoedd, mabwysiadu ymyriadau aml-haenog a gweithio gyda systemau cymorth integredig.[1]

Achosion faterion iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19[golygu | golygu cod]

Gall pandemig COVID-19 achosi straen, gorbryder a phryder ymhlith unigolion. Mae achosion cyffredin straen seicolegol yn ystod pandemig yn cynnwys, ofn mynd yn sâl a marw, osgoi gofal iechyd oherwydd ofn cael eich heintio tra mewn gofal, ofn colli gwaith a bywoliaeth, ofn cael eich gwahardd yn gymdeithasol, ofn cael eich rhoi mewn cwarantîn, teimlad o ddiffyg pŵer wrth amddiffyn eich hun ac anwyliaid, ofn cael eich gwahanu oddi wrth anwyliaidau a rhoddwyr gofal, gwrthod gofalu am unigolion bregus oherwydd ofn haint, teimladau o ddiymadferthedd, diflastod, unigrwydd ac iselder oherwydd eu bod yn ynysig ac ofn ail-fyw profiadau pandemig blaenorol.[1]

Atal a rheoli cyflyrau iechyd meddwl[golygu | golygu cod]

Mae'r Mental Health Foundation wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol ar gyfer atal materion iechyd meddwl yn ystod pandemig COVID-19.[2][3]

Ceisiwch aros mewn cysylltiad[golygu | golygu cod]

Yn ystod adegau o straen, rydym yn gweithio’n well mewn cwmni a chyda cefnogaeth. Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu neu cysylltwch â llinell gymorth i gael cymorth emosiynol. Cadwch mewn cysylltiad â ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ond ceisiwch beidio â gorgynhyrfu pethau. Os ydych chi’n rhannu erthyglau ac ati, defnyddiwch ffynonellau dibynadwy, a chofiwch efallai bod eich ffrindiau’n poeni hefyd.

Cadw trefn feunyddiol[golygu | golygu cod]

Mae’n syniad da i gadw at eich trefn feunyddiol. Efallai eich bod am ganolbwyntio ar y pethau allwch chi eu gwneud os ydych chi’n teimlo y gallwch:

Siaradwch â’ch plant[golygu | golygu cod]

Mae cynnwys ein teulu a’n plant yn ein cynlluniau ar gyfer iechyd da yn hanfodol. Mae angen i ni wrando a gofyn i’n plant beth y maen nhw wedi ei glywed am y firws a’u cefnogi, heb eu dychryn. Mae angen i ni leihau’r effaith negyddol y mae’n ei gael ar ein plant ac esbonio’r ffeithiau iddynt. Trafodwch y newyddion â nhw ond ceisiwch ag osgoi eu gorlwytho â gwybodaeth am y firws. Byddwch mor onest ag y gallwch. Ceisiwch drafod â nhw mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Mae rhywfaint o ofid yn normal[golygu | golygu cod]

Mae’n normal i deimlo’n fregus ac wedi’ch gorlwytho wrth ddarllen newyddion am y firws, yn enwedig os ydych chi wedi profi trawma neu broblem iechyd meddwl yn y gorffennol, neu os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol hirdymor sy’n eich gwneud yn fwy agored i effeithiau’r coronafeirws. Mae’n bwysig cydnabod y teimladau hyn ac atgoffa’n gilydd i ofalu am ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Dylem hefyd fod yn ymwybodol o arferion nad ydynt yn fuddiol yn yr hirdymor, fel ysmygu ac yfed, ac osgoi cynyddu ein defnydd o’r rhain. Ceisiwch dawelu meddwl y bobl rydych yn gwybod sy’n bryderus a chadw mewn cysylltiad â phobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.

Beidio â gwneud rhagdybiaethau[golygu | golygu cod]

Peidiwch â dod i gasgliadau am bwy sy’n gyfrifol am ledaenu’r clefyd. Gall Coronafeirws effeithio ar unrhyw un, waeth eu rhyw neu hil.

Reoli sut rydych yn dilyn y newyddion[golygu | golygu cod]

Mae llawer o sôn am y firws ar y newyddion ar hyn o bryd. Os ydych chi’n teimlo bod y newyddion yn peri straen i chi, mae’n bwysig i gael cydbwysedd. Does dim rhaid i chi osgoi’r newyddion yn gyfangwbl, mae’n bwysig i fod yn wybodus, ond gallwch gyfyngu ar faint o’r newyddion yr ydych chi’n ei weld.

Ymdopi â hunan-ynysu a bod mewn cwarantîn[golygu | golygu cod]

Os oes posibilrwydd bod gennych Coronafeirws, mae’n bosib y gofynnir i chi aros gartref (hunan-ynysu). I bobl sy’n hunan-ynysu neu mewn cwarantîn, efallai y bydd hyn yn anodd iawn. Gall fod o gymorth i geisio ei ystyried fel cyfnod gwahanol o amser yn eich bywyd, ac nid un sy’n wael o reidrwydd, hyd yn oed os na wnaethoch ei ddewis. Bydd hyn yn golygu rhythm bywyd gwahanol, cyfle i gadw mewn cysylltiad ag eraill mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer. Cysylltwch ag eraill yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, dros e-bost neu ar y ffôn, gan eu bod o hyd yn ffyrdd da o fod yn agos i’r bobl sy’n bwysig i chi. Crëwch drefn feunyddiol sy’n blaenoriaethu hunan-ofal. Efallai byddwch am ddarllen mwy neu wylio ffilmiau, gwneud ymarfer corff, rhoi cynnig ar dechnegau ymlacio, neu ddysgu am bwnc newydd ar y we. Ceisiwch ymlacio a gweld hyn fel profiad newydd, anarferol, a all fod o fudd i chi. Sicrhewch fod eich anghenion iechyd ehangach yn cael eu gofalu amdanynt, fel sicrhau bod gennych ddigon o’ch meddyginiaethau presgripsiwn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor cyfredol am y firws yma:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Inter-Agency Standing Committee Guidelines on Mental Health and Psychosocial support" (PDF). MH Innovation. Cyrchwyd 28 March 2020.
  2. "Looking after your mental health during the Coronavirus outbreak". Mental Health Foundation (yn Saesneg). 2020-03-18. Cyrchwyd 2020-04-06.
  3. "Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws • meddwl.org". meddwl.org. 2020-03-08. Cyrchwyd 2020-04-06.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o’r dudalen Gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achos Coronafeirws ar wefan , sef gwefan at y diben o ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth am iechyd meddwl yn y Gymraeg. Mae gan y dudalen penodol hwnnw drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio’r gwaith.

Am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall