Iechyd meddwl a bywyd prifysgol

Oddi ar Wicipedia

Gall myfyrwyr wynebu nifer o heriau iechyd meddwl yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Yn ystod prysurdeb a bywyd prifysgol mae’n hawdd anghofio edrych ar ôl eich hun, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’n naturiol i deimlo’n nerfus neu wedi eich llethu yn ystod yr wythnosau cyntaf yn y brifysgol, a gall gymryd dipyn o amser i ddod i arfer.[1]

Datganodd 3.7% o holl ymgeiswyr y DU gyflwr iechyd meddwl yn eu cais i astudio yn 2020. Mae’r ffigwr hwnnw wedi codi 450% dros y ddegawd ddiwethaf. Mae menywod 2.2 gwaith yn fwy tebygol o ddatgan cyflwr iechyd meddwl na dynion.[2]

Mae rhai myfyrwyr LHDT tua chwe gwaith yn fwy tebygol o rannu cyflwr iechyd meddwl, ac mae myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal bron deirgwaith yn fwy tebygol o gael problemau.[2]

Arwyddion posib[golygu | golygu cod]

Dyma rai o’r arwyddion i gadw llygad amdanynt:

  • Ymddieithrio o'r brifysgol a gweithgareddau ac ymrwymiadau eraill.
  • Tynnu'n ôl yn gymdeithasol - mynd yn fwy ynysig a pheidio â gofalu amdanoch chi'ch hun.
  • Problemau gyda chymhelliant a chanolbwyntio.
  • Newidiadau mewn patrymau bwyta a chysgu.
  • Ymgymryd ag ymddygiadau caethiwus neu gymryd risgiau diangen - fel defnyddio cyffuriau neu alcohol.
  • Symptomau corfforol fel cur pen, problemau treulio a phoen corfforol - mae cysylltiad cryf rhwng y meddwl a'r corff.
  • Hwyliau isel neu fwy o anniddigrwydd.
  • Diffyg egni a chymhelliant.
  • Teimlo'n ddagreuol, yn ddig neu'n ymylol yn gyson.[3]

Achosion[golygu | golygu cod]

Mae nifer o achosion posib am ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y coleg neu brifysgol gan gynnwys;

Cymorth[golygu | golygu cod]

Mae gan brifysgolion rwydweithiau cymorth i helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd setlo i fywyd Prifysgol neu sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl parhaus. Mae hefyd yn bwysig siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol os ydych yn teimlo eich bod yn cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl.

Dolennu allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bywyd Prifysgol". meddwl.org. 2019-08-22. Cyrchwyd 2022-03-05.
  2. 2.0 2.1 "450% increase in student mental health declarations over last decade but progress still needed to address declarations stigma". UCAS (yn Saesneg). 2021-06-17. Cyrchwyd 2022-03-05.
  3. "Looking after your mental health at university | Prospects.ac.uk". www.prospects.ac.uk. Cyrchwyd 2022-03-05.
  4. "The College Student Mental Health Crisis | The Light Program". thelightprogram.pyramidhealthcarepa.com (yn Saesneg). 2020-07-22. Cyrchwyd 2022-03-05.