Ice Age: Dawn of the Dinosaurs

Oddi ar Wicipedia
Ice Age: Dawn of the Dinosaurs
Cyfarwyddwyd ganCarlos Saldanha
Cynhyrchwyd gan
  • Lori Forte
  • John C. Donkin
Sgript
  • Michael Berg
  • Peter Ackerman
  • Mike Reiss
  • Yoni Brenner
StoriJason Carter Eaton
Yn serennu
Cerddoriaeth ganJohn Powell
Golygwyd ganHarry Hitner
Stiwdio
  • Blue Sky Studios
  • 20th Century Fox Animation
Dosbarthwyd gan20th Century Fox
Rhyddhawyd gan
  • Gorffennaf 1, 2009 (2009-07-01)
Hyd y ffilm (amser)94 munud
GwladUnol Daleithiau
IaithSaesneg
Cyfalaf$90 miliwn
Gwerthiant tocynnau$886 miliwn[1]

Ffilm animeiddiedig Americanaidd o 2009 a gynhyrchwyd gan Blue Sky Studios yw Ice Age: Dawn of the Dinosaurs. Mae'n ddilyniant i'r ffilmiau Ice Age ac Ice Age: The Meltdown. Clywir lleisiau'r actorion Ray Romano, John Leguizamo, Denis Leary, Queen Latifah, Jay Leno, Seann William Scott, Josh Peck, Simon Pegg, a Chris Wedge yn y ffilm.

Mae'r stori'n dilyn hynt y sloth Sid ar ôl iddo gael ei gipio gan Tyrannosaurus Rex benywaidd. Mae gweddill y cymeriadau yn anturio i'w achub mewn byd coll trofannol llawn dinosoriaid dan yr iâ. Er cael adolygiadau cymysg gan feirniaid, dyma'r trydydd mwyaf llwyddiannus o ran derbyniadau o unrhyw ffilm animeiddiedig, gydag incwm o $886.7m ledled y byd, gan gynnwys £34.8m yn y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ice Age: Dawn of the Dinosaurs". Box Office Mojo. Cyrchwyd 8 Medi 2009.