I Am Legend (ffilm)
![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Francis Lawrence |
Cynhyrchydd | Akiva Goldsman David Heyman James Lassiter Neal H. Moritz |
Ysgrifennwr | Sgript: Akiva Goldsman Mark Protosevich Nofel: Richard Matheson |
Serennu | Will Smith Alice Braga Dash Mihok Salli Richardson Willow Smith |
Cerddoriaeth | James Newton Howard |
Sinematograffeg | Andrew Lesnie |
Golygydd | Daniel P. Hanley Mike Hill |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Warner Bros. |
Amser rhedeg | Fersiwn sinemau: 100 mun. Fersiwn arall: 104 mun. |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae I Am Legend (2007) yn ffilm arswyd-gwyddonias a gyfarwyddwyd gan Francis Lawrence ac sy'n serennu Will Smith. Dyma'r drydedd ffilm sy'n addasiad o nofel 1954 Richard Matheson o'r un enw, sy'n dilyn The Last Man on Earth (1964) a The Omega Man (1974). Mae Smith yn actio rhan y feirwsolegydd Robert Neville, sy'n imiwn i feirws atgas a grëwyd gan ddyn er mwyn cynnig iachád o gancr yn wreiddiol. Mae ef yn gweithio ar ffordd i gael gwared ar y firws tra'n byw ym Manhattan yn y flwyddyn 2012. Erbyn y flwyddyn honno, fodd bynnag, rheibir y ddinas gan ddioddefwyr anifeilaidd y feirws.