Hyde Park
![]() | |
Math | parc ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Gerddi Kensington ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Parciau Brenhinol Llundain ![]() |
Sir | Dinas Westminster ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 137.72 ha ![]() |
Yn ffinio gyda | Park Lane ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5086°N 0.1636°W ![]() |
Cod OS | TQ2757780341 ![]() |
Rheolir gan | Parciau Brenhinol ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | y Goron ![]() |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Parc yn Ninas Westminster, Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Hyde Park. Mae'n un o'r wyth Parc Brenhinol. Mae ganddo arwynebedd o 350 erw (140 ha). Dyma'r mwyaf o'r parciau a'r mannau gwelltog sy'n ffurfio cadwyn o Balas Kensington yn y gorllewin trwy Erddi Kensington a Hyde Park ei hun, trwy Hyde Park Corner a Green Park, heibio Palas Buckingham i St James's Park yn y dwyrain. Rhennir Hyde Park gan y llynnoedd y Serpentine a'r Long Water.
Crëwyd y parc gan Harri VIII yn 1536 pan gymerodd dir o Abaty Westminster i'w ddefnyddio fel tir hela. Agorodd i’r cyhoedd yn 1637 a daeth yn boblogaidd yn gyflym, yn enwedig ar gyfer gorymdeithiau Calan Mai. Digwyddodd gwelliannau mawr, gan gynnwys adeiladu'r ddau lyn, yn gynnar yn y 18g ar gais y Frenhines Caroline. Daeth y parc hefyd yn lle ar gyfer ymladd gornestau yn ystod y cyfnod hwn. Yn 1851 cynhaliwyd yr Arddangosfa Fawr yn y parc, gyda'r Palas Grisial, a ddyluniwyd gan Joseph Paxton, yn ganolbwynt iddo.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "History of Hyde Park", The Royal Parks; adalwyd 1 Mawrth 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Welcome to Hyde Park", The Royal Parks