Huw Aaron

Oddi ar Wicipedia
Huw Aaron
Ganwyd22 Hydref 1980 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcartwnydd, cyfrifydd Edit this on Wikidata
PriodLuned Aaron Edit this on Wikidata

Cartwnydd, artist comic a darlunydd yw Huw Aaron (ganed 22 Hydref 1980). Ganed ef yn Abertawe, a mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Mae'n gweithio'n llawrydd ers 2009, ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfrifydd siartredig[1].

Mae Huw wedi darlunio nifer o lyfrau i blant a stribedi comig, gan gynnwys y cylchgrawn Mellten[2]. Lansiwyd Mellten ar y 30ain o Fai, 2016, gan gyhoeddi 15 rhifyn. Ers Medi 2021, mae Mellten wedi cyfuno gyda chylchgrawn CIP gan Urdd Gobaith Cymru, a gyhoeddir yn ddigidol bob deufis.

Mae wedi cyfrannu cartwnau at Private Eye, Reader's Digest, The Oldie, Prospect, The New Statesman a'r Spectator yn rheolaidd[3].

Yn 2020, yng nghanol cyfnod clo pandemig COVID-19, creodd gyfres o fideos ar YouTube dan yr enw Criw Celf[4] oedd yn dysgu plant sut i ddarlunio cartwnau.

Yn 2020, fe oedd un o gyflwynwyr y gyfres Cer i Greu ar S4C.[5]

Fel darlunydd mae wedi gweithio gyda'r awduron Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Elidir Jones, Meilyr Siôn, Dan Anthony a Wendy White.

Creodd gêm frwydro cardiau tebyg i Top Trumps gyda themâu chwedloniaeth Gymraeg fel y Mabinogi a llên gwerin. Cynhyrchwyd dau becyn o'r gêm gan gwmni Atebol: Chwedlau Cymru: Cardiau Brwydro - Bwystfilod Hudol a Chwedlau Cymru: Cardiau Brwydro - Y Mabinogi. Mewn cyfweliad am y gêm dywedodd:

Fel un sydd wrth fy modd gyda chwedloniaeth Cymru, o'n i'n awyddus i ledaenu'r straeon hynod sydd gyda ni yn ein diwylliant i gynulleidfa ehangach. Mae plant Cymru yn wybodus iawn am chwedlau Groeg er enghraifft, ond prin yn gwybod am ein straeon ni. [...] Dwi wastad wedi caru Top Trumps a gemau cardiau eraill tebyg, ers yn blentyn. Mae rhyw hud yn digwydd wrth gyfuno llun, ychydig o destun, a 'stats' - mae'r wybodaeth yna yn tanio dychymyg plentyn ac yn troi'r cerdyn yn gymeriad fyw. [6]

Yn 2019 sefydlodd y cyhoeddwr Gwasg Llyfrau Broga Books, gyda'i wraig Luned, gyda'r bwriad o gyhoeddi llyfrau Cymraeg sydd yn "llyfrau lliwgar, gwreiddiol, gwahanol i blant Cymru."[7]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod â'r artist ac awdur Luned Aaron.

Cyhoeddiadau (fel awdur)[golygu | golygu cod]

  • Llyfr Hwyl y Lolfa (2013)
  • Mwy o Jôcs y Lolfa (2014)
  • Ble Mae Boc? (2018)
  • Find the Dragon! (2019)
  • Seren a Sbarc: Yn Achub (Cwpan) y Bydysawd (gyda Elidir Jones) (2019)
  • Y Ddinas Uchel (2019)
  • Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau (2020)
  • Pam? (gyda Luned Aaron) (2021)
  • Nos Da Tanwen a Twm (gyda Luned Aaron) (2021)
  • Gwil Garw a'r Carchar Crisial (2021)
  • A am Anghenfil (2021)
  • Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser (gyda Elidir Jones) (2021)
  • Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor (gyda Luned Aaron) (2022)
  • Find the Dragon: Lost in Welsh Legends (2022)

Cyhoeddiadau (fel darlunydd)[golygu | golygu cod]

  • Llyfr Jôcs y Lolfa (2011)
  • Ffarmwr Ffowc
  • Hiwmor y Cymoedd
  • Cyfres Steve's Dreams gan Dan Anthony
  • Cyfres Trio gan Manon Steffan Ros
  • St. David's Day is Cancelled gan Wendy White
  • Planet Adventures: The Lost Moon gan Pat Roper (2017)
  • Hufen Afiach gan Meilyr Sion (2018)
  • Mam! gan Heulwen Jones (2018)
  • Mynydd i'w Ddringo gan Myrddin ap Dafydd (2021)
  • Yr Horwth gan Elidir Jones (2019)
  • Melltith yn y Mynydd gan Elidir Jones (2021)
  • Hufen Afiach Dai gan Meilyr Sion (2021)
  • Oes yr Eira gan Elidir Jones (2022)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Huw Aaron". Huw Aaron (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-15.
  2. "Mellten - Amdano". www.mellten.com. Cyrchwyd 2021-11-15.
  3. "Huw Aaron | Professional Cartoonists' Organisation UK". procartoonists.org. Cyrchwyd 2021-11-15.
  4. (yn en) CRIW CELF - Gwil Garw, Casglwr Angenfilod, https://www.youtube.com/watch?v=p5YwpZDu-nc&list=PLfeAJMS004a-udRyjqvb5b-sTRlf0vADu, adalwyd 2021-11-15
  5. "Stwnsh | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2022-03-09.
  6. Rowlands, Neil. "Y Darlunydd / The Artist Huw Aaron – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog". Cyrchwyd 2021-11-15.
  7. "llyfraubroga". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-15.