Hunangofiant Dyn Lwcus

Oddi ar Wicipedia
Hunangofiant Dyn Lwcus
AwdurHywel Emrys
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi16/11/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784613310

Cyfrol gan Hywel Emrys yw Hunangofiant Dyn Lwcus a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Hunangofiant cynnes yr actor Hywel Emrys. Yn fwyaf adnabyddus fel Derek, perchennog y Garej ar Pobol y Cwm. Ceir 106 o luniau.

Adolygiad ar wefan Gwales[golygu | golygu cod]

Yn ei adolygiad dywed Gwyn Griffiths:

Mae yma lawer o wybodaeth i bobol ifanc sy'n awyddus i ddilyn gyrfa ar lwyfan neu ar y sgrin, boed fawr neu fach. Ond ceir rhybuddion hefyd – nid yw bywyd heb y sicrwydd o gael gwaith cyson yn fêl i gyd.

Fel mewn hunangofiannau gan actorion eraill fu’n rhan o hanes Pobol y Cwm, mae Hywel Emrys yn barod i ddweud ei farn am y ffordd y cafodd ei drin gan ambell gynhyrchydd.

Arferid dweud i'r pulpud roi lloches a gyrfa i bobl oedd â'r ddawn i berfformio. Diddorol fel y bu i’r theatr, y teledu a’r radio roi gyrfa dda, er ei bod yn yrfa ansicr, i blant y genhedlaeth ddaeth ar ôl cyfnod y pregethwyr mawr. I’r traddodiad hwnnw y perthyn Hywel Emrys. Glöwr oedd ei dad, dyn arbennig o alluog a lwyddodd drwy ymdrech i’w addysgu ei hun a chael coleg maes o law, cyn mynd i'r weinidogaeth, a bu ei fam yn athrawes lwyddiannus yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru.

Mae gan Hywel lu o hanesion a sylwadau diddorol am ei yrfa. Cafodd flwyddyn o addysg yn Detroit gan i’w dad dderbyn gwahoddiad i fod yn weinidog ar gapel Cymraeg yn y ddinas honno, a chan fod honno'n flwyddyn yr arholiad 11+ penderfynwyd y byddai Hywel yn sefyll arholiad i fynd i Goleg Llanymddyfri. Ac yno yr aeth. Er gwaethaf ei eiriau caredig am ambell un yno, fel Carwyn James fel amryw o rai eraill, nid oes ganddo lawer i’w ddweud am ysgol fonedd Gymreiciaf Cymru.

Aeth i Goleg Addysg Dinas Caerdydd a chwarae rygbi i'r Old Cantonians. Bu rygbi yn rhan amlwg o’i fywyd. Wedyn treuliodd gyfnod fel athro cyn mentro i fyd teledu, a chawn ganddo sawl sylw craff, crafog a pherthnasol am fyd addysg, gyda'r pleser o fod o flaen dosbarth yn cael ei ddifetha gan lwyth o waith papur.

Er gwaethaf hanes dirdynnol marw cynnar ei wraig Liz ddwy flynedd yn ôl, a'r hanes hwnnw'n llawn dioddefaint a dewrder anghyffredin ar ran y ddau, Hunangofiant Dyn Lwcus yw'r teitl ddewisodd Hywel ar ei gyfrol. Yng nghanol popeth fe wêl fod ganddo lawer i ddiolch amdano.



Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017