Hugh Rees
Gwedd
| Hugh Rees | |
|---|---|
| Ganwyd | 8 Ionawr 1928 |
| Bu farw | 1 Rhagfyr 2003 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 42fed Llywodraeth y DU |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe o 1959 hyd 1964 oedd (John Edward) Hugh Rees, FRICS (8 Ionawr 1928 – 1 Rhagfyr 2003). Roedd o'n aelod o'r Blaid Geidwadol.
Gwasanaeth Cyhoeddus
[golygu | golygu cod]Nid oedd ei yrfa gyhoeddus ar ben, gan iddo gael ei wneud yn Gadeirydd Cymdeithas Tai Cambrian ym 1968. Yn yr un flwyddyn, fe’i penodwyd i Gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y bu’n gwasanaethu arno am 26 mlynedd. Yn 1972 cafodd fan ar ddirprwyaeth y Deyrnas Unedig i Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol y Gymuned Ewropeaidd, y bu’n gwasanaethu arno tan 1978. O dan lywodraeth Margaret Thatcher, roedd Rees yn aelod o Awdurdod Datblygu Cymru rhwng 1980 a 1986. Bu hefyd yn aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Percy Morris |
Aelod Seneddol dros Orllewin Abertawe 1959 – 1964 |
Olynydd: Alan Williams |